Tafarnwraig yn cynnal digwyddiad codi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
268
Above: Ann Raeburn

Gofynnodd y dafarnwraig Ann Raeburn am roddion yn lle anrhegion ar gyfer ei phen-blwydd yn 50 oed a chodwyd £1,253 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Dywedodd Ann, sy’n rhedeg yr Halfway Inn yn Pisgah, ger Aberystwyth, gyda’i gŵr Stuart: “ Rwy’n rhy hen i gael anrhegion! Felly, yn lle anrhegion, gwahoddais bobl i gyfrannu at Apêl Cemo Bronglais yn lle hynny.

“Roedd teulu, ffrindiau a chwsmeriaid yn hael iawn. Hefyd, cododd fy mrawd John Hopkins a’i gariad Hayley Jenkins £700 ychwanegol yn eu partïon pen-blwydd yn 40 oed. Felly, bydd hyn yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm!”

“Dydw i ddim yn dychmygu bod yna unrhyw un ohonom ni sydd heb gael ein heffeithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd gan ganser. Mae gan bob un ohonom ffrindiau a theulu sydd wedi mynd drwyddo. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn Ysbyty Bronglais yn amhrisiadwy i’r rhai sy’n delio â’r clefyd hwn, ac i’r rhai sy’n eu cefnogi ar eu taith,” ychwanegodd Ann, mam i dri o blant.

“Bydd uned ddydd cemotherapi newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth, gan roi mwy o breifatrwydd i bobl a gwell amgylchedd gwaith i’r staff.” 

Gallwch chi gyfrannu yma o hyd https://hyweldda.enthuse.com/pf/ann-raeburn

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Ann, John a Hayley am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu er mwyn ein helpu i gyrraedd ein targed.” 

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle