Mae gwaith yn parhau ar Brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru

0
518

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda mabwysiadwyr gorsafoedd a gwirfoddolwyr o Croeso Aberdaugleddau fel rhan o’n Prosiect Mabwysiadu Gorsaf a Llwybrau Gwyrdd

Mae’r gwelliannau yng ngorsaf reilffordd Aberdaugleddau yn cynnwys arddangosiadau blodau sy’n creu amgylchedd i bryfed peillio, gan roi cyfle i natur fod yn rhan o deithiau ein teithwyr.

Mae’r gwaith ar gyfer amgylchedd yr orsaf yn annog bioamrywiaeth yn yr ardal leol.  Mae’r gwelliannau’n cynnwys creu mannau gwyrdd newydd drwy gyflwyno bocsys planhigion a gosod planhigion yn lle’r llwyni presennol i wella bioamrywiaeth a phlanhigion synhwyraidd er mwyn cynyddu lles teithwyr.

Visit Milford Haven July 2022

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae gweithio yn y gymuned gyda grwpiau fel Croeso Aberdaugleddau yn golygu y gallwn greu cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer gwelliannau i’n rhwydwaith, gydag anogaeth gan y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae prosiectau fel Llwybrau Gwyrdd yn wych oherwydd eu bod yn cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, o helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth i adeiladu perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n cymdogion.”

Dywedodd Jayne Hancock o Visit Milford Haven, “Rydym yn falch iawn o weld y potiau blodau newydd yng Ngorsaf Drenau Aberdaugleddau – dyma ffordd wych o gyfarch ein hymwelwyr.  Mae Visit Aberdaugleddau yn grĆ”p gwirfoddol, sy’n ymroddedig i gydweithio i wella’r apĂȘl a’r profiad a gaiff ymwelwyr yn Aberdaugleddau, ac mae hwn yn sicr yn ychwanegiad i’w groesawu i un o’r prif fannau cyrraedd.

“Rydym bellach yn ymfalchĂŻo yn ein harddangosfa, trwy ddyfrio a chynnal a chadw’r planhigion yn rheolaidd ac edrychwn ymlaen at ddatblygiadau eraill yn yr orsaf drenau yn y dyfodol.”

Visit Milford Haven July 2022

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ÂŁ100,000 gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd rheilffordd ac ardaloedd cyfagos. 

Fel rhan o’r prosiect Llwybrau Gwyrdd, rydym yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 25 o’n gorsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol.  Bydd y gwelliannau’n cynnwys gosod potiau blodau a bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth leol ar draws y rhwydwaith.

Gallwch ddarllen mwy am ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, a phrosiectau eraill yn ein cymunedau ar ein gwefan yn https://trc.cymru/amdanom-ni/datblygu-cynaliadwy/prosiectau   


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle