GRWP TREFTADAETH CLYDAU YN PARATOI I DADORCHUDDIO COFEB I W.R. EVANS GER YSGOL BWLCHYGROES

0
234
Grŵp Treftadaeth Clydau, Gwenda Savins a Rachael James ddim yn bresennol.

Ar ôl derbyn un o’r grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr ar ddiwedd 2021; Mae Grŵp Treftadaeth Clydau nawr yn paratoi i ddadorchuddio cofeb i W.R. EVANS ar dir hen ysgol Bwlchygroes am 2:30 yp ar ddydd Sadwrn, 12fed o Dachwedd. Mab-yng-nghyfraith W.R., Elfed Dafis a’i deulu fydd yn dadorchuddio. Cyflwynodd Elfed “Falabalam” I​blant ar HTV rhwng 1982 a 1989 yng Nghaerdydd. Erbyn y 1990au roedd yn dal yn gyflwynydd plant ar HTV, gan gynnwys rôl boblogaidd y cymeriad teledu ‘Wcw’ ar nifer o raglenni. Yna, aeth ymlaen i gyflwyno’r Tywydd ar S4C.

Er yn wreiddiol o Fynachlogddu treuliodd W.R. gyfnod maith o’i fywyd ym Mwlch-y-groes yn brifathro (1938-1958). Yn ystod ei gyfnod fel prifathro, bu llwyddiannau mawr gyda’r Adran ac Aelwyd yr Urdd. Hefyd, tra yn Bwlchygroes ffurfiodd barti cyngerdd, Bois y Frenni, sydd yn dra adnabyddus yn yr ardal ac ar draws Cymru. Yn ystod y dadorchuddiad, bydd Bois Y Frenni yn perfformio i’r cyhoedd ynghyd ag eitem gan Ysgol Clydau.

W.R. EVANS a’i gyd-athrawon in y 50au

Mynegodd Hedd Harries cadeirydd Pwyllgor Bro Clydau:

 “Oedd yn hen bryd gwneud hyn; dylai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl. Er hyn, disgwylir i’r dadorchuddio fod yn deyrnged deilwng i W.R. EVANS, mae gan gymuned Clydau lawer o edmygedd ohono, ar ôl cyfoethogi’r diwylliant a rhoi llwyfan cenedlaethol i’r ardal. O’r straeon dwi wedi clywed gan fy Mam-gu, byddai wedi bod yn fagwraeth arbennig iawn yn y cyfnod hwnnw”

Mae croeso i bawb i’r achlysur o ddadorchuddio’r gofeb yn Neuadd Gymunedol Bwlchygroes am 2:30 yp ar y 12fed o Dachwedd, lluniaeth ysgafn ac eitemau gan Ysgol Clydau a Bois Y Frenni yn y neuadd i’w ddilyn. Mae’r Plac wedi’i wneud â llaw ar lechen Gymreig gan y torrwr cerrig enwog: Ieuan Rees o Gwmllwchwr; hwn sydd wedi gwneud nifer o gweithiau cerfiedig ar draws Cymru benbaladr; gan gynnwys gwaith yn Senedd Cymru a charreg Gwynfor Evans ger Llandeilo. Bydd y plac yn cael ei osod ar Garreg Las Preseli a roddwyd gan Ken Davies, Ffynnongroes.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle