Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn beirniadu penderfyniad FIFA i gosbi chwaraewyr Cwpan y Byd am wisgo bandiau braich LHDT+

0
213
Adam Price MS

Mae’n rhaid i FIFA wyrdroi ei benderfyniad “creulon” i “gosbi chwaraewyr” am wisgo bandiau braich LDHT yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Cyhoeddwyd yn gynnar fore Llun na fydd Cymru, Lloegr a gwledydd Ewropeaidd eraill yn gwisgo band braich “OneLove” yng Nghwpan y Byd yn Qatar oherwydd bygythiad gan FIFA i gosbi chwaraewyr.

Bydd Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf yn y twrnamaint yn erbyn UDA am 7pm (GMT) heddiw – ar ôl cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price – sydd yn ddyn hoyw – fod penderfyniad FIFA yn “atgas” ac yn “greulon” a mynnodd eu bod yn gwrthdroi eu penderfyniad ac amddiffyn hawliau pobol LHDT+ “waeth ble mae’r gêm yn cael ei chynnal”.

Canmolodd Mr Price Cymdeithas Bel-Droed Cymru am eu gwaith caled yn gwneud y gêm yn “ddiogel a chynhwysol” gan bwysleisio fod Plaid Cymru yn cydsefyll gyda’r gymuned LHDT+ fyd-eang.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price:

“Dyma Gwpan y Byd lle mae croeso i fod i bawb – oni bai, wrth gwrs, eich bod chi’n LDHT+ neu’n cyd-sefyll gyda phobl LDHT+

“Mae penderfyniad FIFA i gosbi chwaraewyr am wisgo band One Love yn atgas ac yn greulon. Rhaid iddynt wrthdroi eu penderfyniad niweidiol ar unwaith.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio’n galed i wneud y gêm yn ddiogel ac yn gynhwysol. Rhaid cario’r neges honno o gariad a chynwysoldeb i’r byd heb ofn na chasineb. Rhaid i FIFA amddiffyn hawliau pobl LHDT+ waeth ble mae’r gêm yn cael ei chynnal.

“Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â’r gymuned LHDT+ fyd-eang yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch a gwahaniaethu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle