Nododd Rosemary Tudor ei phen-blwydd yn 60 oed trwy godi swm anhygoel o £6,372 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.
Yn y llun mae Rosemary, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2008 ac sydd bellach yn cael triniaeth canser pellach, yn trosglwyddo’r siec i Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Rhian Jones, a Nyrsys Clinigol Arbenigol Haematoleg Heulwen Lewis ac Eirian Gravell.
Meddai: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu codi cymaint o arian ar gyfer yr Apêl. Cafwyd rhoddion gan deulu a ffrindiau ond hefyd gan bobl nad wyf yn eu hadnabod sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ganser.
“Penderfynais ofyn am roddion ar gyfer Apêl Cemo Bronglais yn lle anrhegion oherwydd mae’r uned ddydd yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n achos teilwng iawn.
“Mae’r uned wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ers 14 mlynedd ers i mi gael diagnosis o ganser y fron. Nawr rydw i wedi cael diagnosis o Myeloma Lluosog ac, ar ôl i’m bôn-gelloedd gael eu cynaeafu ac yna eu hail-drawsblannu, byddaf yn cael cemotherapi pellach yn yr uned.
“Y codi arian yw fy ffordd i o ddweud diolch i’r staff anhygoel sy’n gweithio ar yr uned cemotherapi. Rydym mor ffodus i’w cael. Rydych chi’n teimlo fel unigolyn, maen nhw mor ofalgar a chyfeillgar.”
Mae Rosemary yn byw gyda’i gŵr Richard ar eu fferm bîff a defaid ger New Cross, Aberystwyth. Mae ganddyn nhw dri o blant – Leisia, Dylan a Lois – ac maen nhw i gyd yn y llun gydag anifail anwes y teulu Deio.
Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.
“Rydym yn ddiolchgar i Rosemary am ei chefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.” I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle