Mae gwerthiant DVDs yn codi £1,200 ar gyfer yr Adran Cardio-Anadlol

0
270

Mae Mr. William Evans o Felinfach, Llanbedr Pont Steffan wedi codi £1,200 ar gyfer ei elusen GIG leol o werthu DVDs i ddathlu canmlwyddiant Sioe Llangeitho.

Casglodd Mr Evans, sydd wedi bod yn aelod o bwyllgor y sioe ers dros 70 mlynedd, dros 900 o luniau o’r sioe a’u gosod ar DVDs i’w gwerthu i’r gymuned leol.

Cododd gyfanswm o £1,200 ar gyfer yr Adran Cardio-anadlol yn Ysbyty Bronglais.

Yn 2011, derbyniodd Mr. Evans ofal rhagorol gan y tîm cardiaidd yn Ysbyty Bronglais cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys ar gyfer dargyfeiriad pedwarplyg.

Meddai: “Fel cymuned, rydym mor ffodus i gael y cyfleusterau a’r arbenigedd anhygoel hyn ar garreg ein drws. Heb ysbyty Bronglais byddai pethau’n llawer mwy heriol i bensiynwyr fel fi a fyddai’n gorfod teithio llawer ymhellach i gael triniaeth.”

Dywedodd Gethin Howells, Uwch Ffisiolegydd Cardiaidd: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl waith caled ac ymdrech sydd wedi cyfrannu at y rhodd hon i Gronfa Gardiaidd Ysbyty Bronglais.

“Mae rhoddion fel hyn yn ein galluogi i fuddsoddi yn yr offer a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu’r gofal gorau posib i drigolion Canolbarth Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle