Mae garddio trwy’r dull dim palu o fudd i’r pridd, ond mae arbenigwr yn rhybuddio bod angen bod yn wyliadwrus

0
492
William Roberts Cae Newydd Brynamman

Mae dull o dyfu llysiau sy’n cynnwys y lleiafswm o drin tir yn cyfoethogi’r pridd ac yn rheoli chwyn mewn gardd farchnad yng Nghymru, ond mae arbenigwr garddwriaeth yn rhybuddio am rai maglau posibl i’w hystyried wrth gychwyn garddio trwy’r dull dim palu.

Mae William Roberts yn ei bedwerydd tymor o dyfu llysiau ar raddfa fasnachol yng Nghae Newydd, sy’n bum erw wedi’i leoli ym Mrynaman Uchaf, ar ymyl y Mynydd Du.

Yn ddiweddar, cynhaliodd ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio i rannu ei brofiadau ag eraill sydd â diddordeb mewn garddio trwy’r dull dim palu.

Eglurodd ei fod wedi sefydlu’r rhan gyntaf o’i welyau llysiau trwy osod rhwystr cardbord ar welyau 30 modfedd o led, gyda thail ceffyl ar ei ben a gyda sglodion pren rhwng rhesi.

Sefydlwyd yr ail set o welyau mewn modd tebyg ond gan ddefnyddio compost gwastraff gwyrdd. Dangosodd samplau pridd a gymerwyd â phicell fod dyfnder y pridd tywyll llawn deunydd organig yn uniongyrchol gysylltiedig â hyd yr amser y sefydlwyd y gwelyau. Islaw hwn, roedd y pridd yn glai gyda smotiau o rwd, sy’n dynodi gleio a chywasgu, wedi’i waethygu gan y glaw trwm ar lethr deheuol y Mynydd Du ac ar uchder o 270 metr.

Yn fwy diweddar, mae cnydau gorchudd gwrtaith gwyrdd yn cael eu defnyddio yn y gwelyau mwy newydd i gynyddu cynnwys deunydd organig yn gyflymach.

Trwy ychwanegu’r haenau hyn o ddeunyddiau llawn nitrogen a charbon – haen drwchus i ddechrau ac wedi’i gorchuddio â haenau teneuach yn y blynyddoedd dilynol – mae Mr Roberts yn cynhyrchu llysiau heb fod angen taenu plaladdwyr.

Yr unig fewnbwn a ddefnyddir yw tail dofednod ar ffurf pelenni pan fydd angen hwb ychwanegol ar y pridd.

Os caiff ei reoli’n dda, mae peidio â phalu hefyd yn arwain at ostyngiad enfawr yn yr amser chwynnu, meddai Mr Roberts.

Mae cnydau nad ydynt yn cael eu cynaeafu yn cael eu gadael yn y fan a’r lle fel gorchudd i gynnal bioleg y pridd; cyn plannu maent yn cael eu gorchuddio â tharpolin i baratoi’r gwelyau a chaiff hwn ei dynnu’n raddol.

Er y dangoswyd bod garddio sy’n cynnwys y lleiafswm o drin tir yn dda i’r pridd a’r amgylchedd, dywed arbenigwr garddwriaeth ADAS, Chris Creed, fod yna nifer o ystyriaethau y dylai tyfwyr sy’n ystyried trosi i’r system hon fod yn ymwybodol ohonynt.

Yn bwysig, i’r rhai sy’n bwriadu tyfu cnydau’n fasnachol, gall gymryd hyd at ddwy flynedd i’r gweithredu biolegol yn y pridd setlo a byddai hynny’n golygu llai o gnwd yn y cyfnod hwnnw. “Mae’n dipyn o broses i weithio drwyddi,” dywedodd Mr Creed, siaradwr yn y digwyddiad Cyswllt Ffermio.

Mae’n argymell bod y tyfwr yn compostio tail a brynwyd i mewn, yn lle dibynnu ar gael y broses hon wedi’i gwneud, i gael gwared ar hadau chwyn; mae’n awgrymu creu rhenciau 1.5m o uchder sy’n cael eu troi’n wythnosol i awyru a chymysgu’r cynnwys gan gynhyrchu tymheredd uchel.

Byddwch yn ymwybodol hefyd y gall gweddillion plaladdwyr a ddefnyddiwyd i glirio llysiau’r gingroen fod yn bresennol mewn rhywfaint o dail os yw wedi’i wasgaru mewn caeau lle mae anifeiliaid sy’n ei gyflenwi wedi pori.

Mae hyn yn arbennig o niweidiol i ffa, pys a thatws – gall aros yn y pridd am ddwy flynedd neu fwy ar ôl ei gyflwyno.

Er mwyn gwirio bod tail yn ddiogel i’w ddefnyddio, mae Mr Creed yn awgrymu creu prawf bio – hau cnwd sy’n dueddol o gael y clefyd fel ffa i weld beth sy’n digwydd.

“Os daw’r coesyn i fyny’n droellog, peidiwch â defnyddio’r tail,” meddai.

Mae profi statws maetholion y pridd yn bwysig hefyd – os yw’r mynegai ffosffad yn 3 neu’n uwch, mae Mr Creed yn dweud na ddylid defnyddio ffosffad.

Er bod gadael malurion cnwd fel gorchudd yn dda i’r pridd, mae’n rhybuddio nad yw pob llysieuyn yn addas ar gyfer hyn.

“Byddwch yn ofalus nad yw’r cnwd yn mynd i had oherwydd fe allwch chi gael llond lle o chwyn newydd yn y pen draw.”

I dyfwyr sydd â diddordeb mewn garddio trwy’r dull dim palu, mae gan Mr Roberts gyngor da. “Fy nghyngor gorau yw treulio peth amser yn gweithio i rywun sydd wedi gwneud hyn, nid yw’n syml ond, os gwnewch bethau’n iawn, mae’n ffordd werth chweil o dyfu bwyd.”

Mae Delana Davies, Swyddog Gweithredol Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, a drefnodd y digwyddiad, hefyd yn argymell defnyddio gwasanaeth mentora Cyswllt Ffermio ar gyfer mewnbwn gan dyfwyr sefydledig.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle