Tafarn yn codi arian er cof am gwsmer ffyddlon
Uchod: Tongue ‘n’ Groove
Mae Llinos James a’i chwsmeriaid yng Ngwesty’r Castell yn Aberystwyth wedi codi dros £1,200 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.
Codwyd arian er cof am Mike Yeo, cwsmer ffyddlon, ymgynghorydd amaethyddol wedi ymddeol, a fu farw yn anffodus ym mis Medi, yn 79 oed, ar ôl cael diagnosis o ganser y bledren.
Roedd casgliadau mewn perfformiadau bandiau prynhawn Sul yn y dafarn, yn cynnwys The Hicksters and Tongue’n’Groove. A chodwyd arian hefyd yn y nosweithiau cwis rheolaidd ar
nos Wener.
Dywedodd perchennog y gwesty a’r bar, Llinos: “Roedden ni wedi bod yn codi arian i’r Apêl trwy ein nosweithiau cwis poblogaidd ond roedd Mike hefyd yn awyddus i ni wneud rhywfaint o godi arian yn ei enw, felly fe wnaethom enwebu dau fand ac roedd casgliadau yn eu gigs. Rhoddodd rhai aelodau band eu ffioedd hefyd.
“Roedd cwsmeriaid yn hael iawn ac rydym yn falch o fod wedi codi £1,245.40. Mae’r Apêl yn achos mor dda. Mae o fudd i’r gymuned gyfan i gael yr uned ddydd cemotherapi newydd hon wedi’i lleoli’n lleol.”
Codwyd dros £1,000 hefyd i’r Apêl yn angladd Mike, o roddion yn lle blodau.
Dywedodd gwraig Mike, Val: “Pan oedd Mike yn cael cemotherapi yn Ysbyty Bronglais nôl ym mis Ionawr, fe welson ni â’n llygaid ein hunain pa mor brysur oedd yr uned a’i diffyg preifatrwydd.
“Mae’n wych y bydd uned bwrpasol newydd yn yr ysbyty gyda mwy o le ac rwy’n meddwl ei bod yn wych bod Llinos a chwsmeriaid Gwesty’r Castell wedi codi cymaint o arian tuag at yr Apêl. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i deulu a ffrindiau a gyfrannodd yn yr angladd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i Llinos a’i chwsmeriaid yng Ngwesty’r Castell, ac i deulu a ffrindiau Mike, am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at yr Apêl.
“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle