Yn ei neges Blwyddyn Newydd mae’r Prif Weinidog yn dweud:
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
Gobeithio i chi gael Nadolig llawen a heddychlon.
Wrth i 2022 ddod i ben, bydd llawer yn falch o weld diwedd blwyddyn anodd.
Hon oedd blwyddyn lansio rhyfel creulon Rwsia yn erbyn Wcráin.
Lladdwyd miloedd, ac mae miliynau wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
A dros y deuddeg mis diwethaf mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu.
Mae’n fwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Ond, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, mae pobl wedi bod mor barod i helpu eraill.
Rydym wedi gweld cryfder a gwir garedigrwydd.
Mae pobl wedi agor eu cartrefi i filoedd o bobl o Wcráin, gan gynnig noddfa a diogelwch yma yng Nghymru.
Ac unwaith eto, mae cymunedau wedi ymuno i helpu ei gilydd yn yr argyfwng costau byw – yn union fel yn y pandemig.
Mae Blwyddyn Newydd yn ddechrau newydd ac rwy’n siŵr bod gan bawb eu gobeithion a’u dymuniadau am y flwyddyn nesaf.
Dewch inni obeithio am heddwch yn 2023, ac amser hapusach i ddod.
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle