Clinigau brechlyn y ffliw galw heibio i blant wedi’u cyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
303

Mae clinigau brechlyn y ffliw drwy chwistrell drwynol galw heibio ar gyfer plant 2 a 3 oed (ar 31 Awst 2022) yn cael eu cynnal mewn canolfannau brechu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yr wythnos hon.

Gyda salwch gaeafol bellach yn cylchredeg, mae’n bwysig bod rhieni’n sicrhau bod eu plentyn wedi cael eu brechlyn ffliw drwy chwistrell drwynol ddiogel ac effeithiol.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint, a gall fod yn ddifrifol iddyn nhw.

“Gall dal y ffliw gynyddu’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda heintiau eilaidd a gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau clust. Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu y gallai’r brechlyn ffliw drwy chwistrell drwynol helpu i leihau cyfradd heintiau Strep A mewn plant.

“Mae brechu yn ei gwneud hi’n llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty pe bai’n dal y ffliw y gaeaf hwn ac rydym yn gobeithio y bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu rhieni i gael mynediad at y brechlyn ar gyfer eu plentyn.”

Os oes angen y brechlyn ffliw drwy chwistrell drwynol ar eich plentyn, galwch heibio i’ch canolfan agosaf:

  • Canolfan Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, SY23 3AS – 12pm i 6pm, Dydd Gwener 6 Ionawr 2023
  • Canolfan Caerfyrddin (Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP) – 12pm i 6pm, Dydd Gwener 6 Ionawr 2023
  • Canolfan Cwm Cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – 10am i 3pm, Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2023
  • Canolfan Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) – 12pm i 6pm, Dydd Iau 5 Ionawr 2023
  • Canolfan Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, SA14 8QW) – 12pm i 6pm, Dydd Iau 5 Ionawr 2023

Cyn belled nad oes gan eich plentyn dymheredd uchel, gall dderbyn ei frechiad ffliw, hyd yn oed os oes ganddo annwyd neu fân salwch arall.

Ar ôl cael eu brechu, efallai y bydd rhai plant yn cael tymheredd, yn teimlo’n flinedig, yn cael cur pen, yn cael poen yn y cyhyrau neu’n cael llai o archwaeth am ddiwrnod neu ddau. Gall y chwistrell drwynol achosi trwyn sy’n rhedeg neu wedi’i flocio ond fel arfer dim ond ychydig ddyddiau y bydd hyn yn para. Mae adweithiau eraill yn llai cyffredin.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw i blant, ewch i https://icc.gig.cymru/brechlynffliw


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle