PLAID CYMRU’N GALW AM DDATGANIAD ARGYFWNG IECHYD YNG NGHYMRU

0
687
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

“Peidiwch anwybyddu’r argyfwng iechyd rhagor” – Rhun ap Iorwerth AS

Heddiw (dydd Mercher 18 Ionawr), fydd Plaid Cymru yn galw ar y Senedd i ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru.

Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros y gwasanaeth iechyd, mae’r cyfnodau aros am driniaeth yn uwch nag erioed, a gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn mynd ati i streicio dros gyflogau ac amodau gwaith.  

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

Nid yw hyn rhagor yn mater o adferiad rhag y pandemig yn unig – ac nid dyma’r achos ers peth amser. Mae angen cydnabod bod ein gwasanaeth iechyd mewn argyfwng. Mae angen i Gymru gael ei Llywodraeth i gamu i’r her a chynnig yr atebion sydd eu hangen ar gyfer y problemau hirsefydlog hyn.

Rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur. O ystyried cyflwr presennol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru gyfaddef ei bod hi o dan bwysau difrifol i’r graddau y mae mewn argyfwng ar hyn o bryd.

Byddai gwneud hynny’n achosi tri cham allweddol a chadarnhaol. Yn gyntaf, fe fydd yn helpu i ganolbwyntio meddyliau ar ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r problemau sy’n ein hwynebu. Yn ail, fe fydd yn canolbwyntio’r holl bwerau gwario – waeth pa mor brin – ar y materion hynny sy’n bwysig, a does dim yn bwysicach ar hyn o bryd na datrys yr anghydfod am gyflogau. Ac yn olaf, fe fydd yn sicrhau golwg o’r newydd ar strwythurau a phrosesau’r llywodraeth i sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n ddigonol i ddelio â’r argyfwng hwn, yn yr un modd ag y gwnaed newidiadau yn dilyn datganiad yr Argyfwng Hinsawdd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle