Ddydd Mercher, 11 Ionawr, cafodd adeilad newydd sbon Ysgol y Castell ei agor gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Ysgol y Castell wedi cael adeilad newydd o’r radd flaenaf. Bydd yn darparu addysg gynradd i 270 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin, ac mae lle ychwanegol i ddarparu gofal y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r gwaith o gyflawni’r buddsoddiad yn cael ei gwblhau mewn dau gam.
Cafodd cam un ei gwblhau ym mis Tachwedd 2022, wrth i ddisgyblion a staff symud i adeilad newydd yr ysgol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y cyfleusterau yn cynnig llawer o fanteision i’r ysgol ac i’r gymuned ehangach.
Mae disgwyl i’r ail gam gael ei gwblhau yn ystod haf 2023 a bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel hen adeilad yr ysgol, i greu caeau chwarae, Man Chwarae Amlddefnydd (MUGA) a gofod a darpariaethau at ddefnydd y gymuned.
Costiodd y cyfleuster newydd sbon hwn £7.4 miliwn i’w ddarparu ac fe’i ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Sir Caerfyrddin.
Adeiladwyd yr ysgol newydd gan Lloyd & Gravell Ltd.
Dywedodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin: “Roedd angen adeilad newydd ar ddisgyblion a staff Ysgol y Castell a bydd y cyfleuster arbennig newydd sbon hwn yn rhoi cartref ardderchog iddynt am flynyddoedd lawer i ddod.
“Ysgol y Castell yw canolbwynt ei chymuned ac felly bydd yr adeilad hwn hefyd o fudd i gymuned Cydweli.
“Yn ogystal hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Caerfyrddin am fuddsoddi yn y prosiect hwn, a hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Mae adeilad newydd Ysgol y Castell yn gyfleuster ardderchog y mae’r plant, y rhieni, yr athrawon a staff yr ysgol yn ei haeddu. Gan obeithio y byddant yn hapus yno am gyfnod hir.
“Mae’r cyfleuster hwn, sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, yn rhan o’n rhaglen fuddsoddi yn y gymuned hon.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle