Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Cefnogi Wythnos Cofrestru Fy Offer Domestig

0
269

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas y Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMDEA) yr wythnos hon i atgoffa defnyddwyr offer domestig i gofrestru eu heitemau gyda’r gwneuthurwr, boed yn fach neu’n fawr, ac wedi’u prynu, eu ‘mabwysiadu’ neu eu ‘hetifeddu’.

Wrth i’r argyfwng costau byw ysgogi mwy o bobl i ystyried prynu offer domestig mawr ail-law, rydym yn annog deiliaid tai i gofrestru pob eitem, boed yn newydd sbon neu’n ail-law.

Mae registermyappliance.org.uk yn darparu mynediad hawdd a rhad ac am ddim i 60 o frandiau blaenllaw a werthir yn y DU. Mae llawer o’r brandiau’n eich caniatáu i gofrestru eitemau sydd o leiaf 12 oed ac nid oes angen prawf prynu.

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch yn y Cartref:

“Mae llawer mwy o bobl yn meddwl am brynu eitemau ail-law i dorri costau. Bydd rhai hefyd yn gosod offer domestig ail-law gan aelod arall o’u teulu neu efallai’n mabwysiadu peiriant sydd eisoes wedi’i gysylltu pan fyddant yn symud i le newydd. Ond byddant yn dal i allu gwneud y peth call – mae’n hawdd ac yn rhad ac am ddim.  Mae cofrestru’r offer domestig hyn yn golygu bod y gwneuthurwr yn gwybod lle i ddod o hyd iddynt os  bydd angen gwneud atgyweiriadau diogelwch neu eu galw’n ôl. Mae hefyd yn syniad da i unrhyw un sy’n byw mewn llety rhent neu gymdeithas tai. Ni allwch roi pris ar y tawelwch meddwl a ddaw yn sgil gwybod eich bod wedi eich cofrestru, a gallai hyd yn oed ymestyn oes yr offer domestig.”

Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd ar gyfer AMDEA, ymchwydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n meddwl am brynu offer domestig mawr ail-law, a hynny oherwydd y costau byw cynyddol ar hyn o bryd.  Bellach mae un o bob pedwar o bobl yn dweud eu bod yn debygol o ystyried prynu offer domestig ail-law ar-lein, o gymharu â dim ond un o bob chwech bedair blynedd yn ôl.

Mae llawer eisoes wedi prynu offer domestig mawr yn ail-law. Mae cynifer ag un o bob pedwar wedi gwneud hynny ar-lein neu mewn siop.

Arbed arian oedd y prif gymhelliant dros brynu eitem ail-law. Pan ofynnwyd iddynt am eu rhesymau dros ystyried hynny ar unrhyw adeg yn y dyfodol, dywedodd 70% i arbed arian a 39% oherwydd mai dyna’r unig ffordd i fforddio newid peiriant hanfodol. Fodd bynnag, sgoriodd cymhellion amgylcheddol ac arbed adnoddau yn dda hefyd: cyfeiriodd 39% at resymau amgylcheddol dros ddilyn y llwybr ail-law.

Ond pan ofynnwyd i’r ymatebwyr beth y byddent yn ei wneud cyn gosod neu ‘fabwysiadu’ offer domestig ail-law, dim ond 20% a ddywedodd y byddent yn cofrestru’r peiriant gyda’r gwneuthurwr rhag ofn y byddai’n cael ei alw’n ôl. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y rhan fwyaf o weithgynhyrchwyr yn eich galluogi i gofrestru offer domestig hŷn mewn modd syml a hawdd. Dywedodd y rhan fwyaf (54%) y byddent yn dod o hyd i’r llawlyfr ar-lein, byddai 42% yn gwirio’r cyfarwyddyd gosod, a byddai 31% hyd yn oed yn cael technegydd cymwys i’w wirio, gan dalu’r gyda’r gost ymhlyg o wneud hynny yn ôl pob tebyg yn hytrach na’r weithred syml a rhad ac am ddim o gofrestru’r eitem.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle