Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaethau trên a coets i gefnogwyr rygbi ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (4 Chwefror).
Yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth coets y llynedd ar gyfer cyfres ryngwladol yr Hydref, bydd nifer o goetsys dwyffordd yn gweithredu i gyd-fynd ag amserlen reilffordd lawn. Byddant yn rhedeg o Lanelli, Y Fenni, Cwmbrân, Caerffili a Phontypridd gyda phrisiau’n dechrau o £6 yn unig.
I archebu sedd ar un o goetsys dwyffordd TrC ewch i Coetsys | Cymru v Iwerddon | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Mae disgwyl hefyd i fwy na 25,000 o gefnogwyr rygbi deithio i mewn ac allan o Gaerdydd ar y trên ddydd Sadwrn, ac anogir cwsmeriaid i gynllunio a gwirio eu teithiau ymlaen llaw.
Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu degau o filoedd o gefnogwyr rygbi ar ein gwasanaethau ar gyfer y cyntaf o ddwy gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
“Bydd pob trên sydd gennym yn cael ei ddefnyddio a byddwn yn cynnig mwy fyth o wasanaethau yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd fel bod cymaint o le i deithwyr â phosibl.
“Mae gwasanaethau rheilffordd oriau brig cyn ac ar ôl y gêm yn debygol o fod yn brysur iawn, felly rydym yn annog teithwyr i ddefnyddio trenau cynharach a hwyrach, neu archebu lle ar un o goetsys TrC er mwyn sicrhau yn bendant bod gan gefnogwyr sedd yn ôl ac ymlaen o’r gêm.
“Bydd system giwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog ar ôl y gêm a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r cwmnïau trenau eraill i gludo teithwyr adref mor gyflym ac mor ddiogel â phosib.”
Anogir teithwyr i ymgyfarwyddo â’r system giwio cyn teithio i’r gêm.
Bydd coetsys TrC yn gollwng ac yn gadael o Ffordd Tresillian yng nghanol dinas Caerdydd, taith gerdded fer o Stadiwm Principality. Rhaid archebu tocynnau coets dwyffordd ymlaen llaw ac nid yw tocynnau trên presennol yn ddilys ar gyfer teithio ar y coetsys. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly y cyntaf i’r felin yw hi.
Dylai cefnogwyr rygbi a fydd yn teithio i brifddinas Cymru ddydd Gwener 3 Chwefror, y diwrnod cyn gêm Cymru v Iwerddon, fod yn ymwybodol y bydd gweithredu diwydiannol ar waith gan yrwyr trenau 15 o gwmnïau trenau eraill.
Nid yw staff TrC yn rhan o’r streiciau, ond mae ei wasanaethau’n debygol o fod yn brysurach nag arfer oherwydd ni fydd unrhyw wasanaethau Great Western Railway, West Midlands Railways, Avanti na CrossCountry yn gweithredu ar y dydd Gwener.
Bydd gwasanaethau Great Western Railway yn gweithredu fel arfer ddydd Sadwrn 4 Chwefror a byddant unwaith eto yn defnyddio eu trenau trydan i ddarparu capasiti ychwanegol ar brif reilffordd De Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol ar ddydd Mercher 1 a dydd Gwener 3 Chwefror, ewch i Streiciau Trên| Dyddiadau streic rheilffyrdd a gweithredu diwydiannol | TrC
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
Hi,
Hope you are fine. I just saw your site on google while browsing. I need guest posts on your site.
Kindly let me know if you provide guest posts on your site.
Looking forward to hearing from you.
Regards
Comments are closed.