Ffenestr ymgeisio gweithdy cynyddu ffrwythlondeb Cyswllt Ffermio nawr ar agor!

0
193
Capsiwn: Bydd y milfeddyg llaeth blaenllaw Kate Burnby ac Owen Atkinson yn cyflwyno'r weithdy

Gyda rheolaeth dda o fridio ac atgenhedlu yn sail i broffidioldeb buchesi yng Nghymru, mae ffermwyr yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer gweithdy newydd Cyswllt Ffermio sydd wedi’i gynllunio i helpu cynyddu ffrwythlondeb y fuches i’r eithaf.

Bydd Meistr ar Ffrwythlondeb, y diweddaraf mewn cyfres o ‘ddosbarthiadau meistr’ pwrpasol a gynigir gan Cyswllt Ffermio, yn cael ei gyflwyno gan ddau filfeddyg llaeth blaenllaw, Kate Burnby ac Owen Atkinson.

Dywedodd Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, Gwenan Evans, y bydd aelodau’r cwrs yn cael y cyfle i ddysgu am y technegau rheoli ffrwythlondeb mwyaf diweddar ar gyfer gwella lles, perfformiad a chynyddu proffidioldeb buchod – a chael cyngor ar sut i fabwysiadu’r rhain.

“Mae ffrwythlondeb anifail bridio yn cael ei ddylanwadu gan ystod eang o wahanol ffactorau a bydd y cwrs yn ymdrin â’r rhain yn fanwl,” meddai.

Bydd y rhain yn cynnwys datblygu dealltwriaeth dda o ffrwythlondeb buchod a nodi’r paramedrau cywir i fesur a monitro ffrwythlondeb mewn gwahanol fathau o fuchesi a systemau rheoli.

Bydd aelodau’r cwrs yn cael cymorth i ddatblygu cynllun i wella perfformiad ffrwythlondeb eu buches, yn seiliedig ar eu systemau, data ac amcanion eu hunain.

“Bydd adrannau ar reoli maeth, gan gynnwys sgorio cyflwr y corff, dulliau canfod pryd mae buwch yn gofyn tarw, trin semen ac amseriad AI,” esboniodd Ms Evans.

Rhoddir cyngor ar sut i drin buchod mewn amgylchedd di-straen i wella’r siawns o genhedlu, y protocolau gorau ar gyfer cyn-fridio ac ar gyfer canfod beichiogrwydd a sut i gael y gorau o ymweliadau ffrwythlondeb gan filfeddygon.

Cynhelir y gweithdy fel dwy weminar gyda’r nos ar 13 a 15 Chwefror 2023 a bydd sesiwn ymarferol undydd ar y fferm ar 1 Mawrth 2023 yn Fferm Coleg Gelli Aur, ger Llandeilo.

Mae gan ffermwyr tan 9 Chwefror 2023 i gyflwyno eu ceisiadau drwy fynd i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/sgiliau-hyfforddiant/cwrs-meistr/meistr-ar-ffrwythlondeb


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle