Gŵr o Gaerdydd yn cael ei adfywio gan CPR a defnydd cynnar diffibriliwr

0
638
Mike's first aid trainer, Gareth.

Pan fynychodd Mike Williams o Bort Talbot gwrs gloywi Cymorth Cyntaf yn y Gwaith gyda Gareth Parsons fis Hydref diwethaf, nid oedd yn gwybod y byddai’r sgiliau a ddysgodd yno yn ei helpu i achub bywyd rhywun ddeufis yn ddiweddarach.

Roedd Mike, sydd bellach yn byw yng Nghaerffili, ar ddyletswydd fel Swyddog Diogelwch yng Nghaerdyddar 6 Rhagfyr 2022 pan gafodd alwad ffôn am argyfwng meddygol gerllaw. Ynghyd ag rhai o’i gydweithwyr, cydiodd Mike yn gyflym yn y diffibriliwr yn y dderbynfa a gwneud ei ffordd i’r lleoliad. Ar ôl cyrraedd, darganfu Mike a’i gydweithiwr ddyn yn gorwedd wyneb i lawr ar y llawr.

Rholion nhw y claf ar ei gefn a gwneud y gwiriadau cychwynnol. Fe wnaethon nhw ddarganfod yn gyflym nad oedd y claf yn ymateb, gan dybio’n gywir ei fod wedi mynd i ataliad ar y galon. Dechreuodd Mike a’i gydweithiwr CPR ar unwaith gan gysylltu’r claf â diffibriliwr yn brydlon.

Meddai Mike, “Ar ôl sawl rownd o gywasgiadau ar ei frest ac o leiaf tair sioc o’r diffibriliwr, dechreuodd anadlu eto.”

Yn fuan ar ôl i’r claf gael ei ddadebru, cyrhaeddodd parafeddygon y lleoliad a chymryd yr awenau. Rhuthrwyd y claf i’r ysbyty a derbyniodd lawdriniaeth ar ei galon. Mae bellach yn gwella’n ddiogel gartref.

“Hoffwn ddweud diolch i St John Ambulance Cymru a Gareth Parsons am yr hyfforddiant a gefais, a alluogodd i mi helpu i achub bywyd rhywun a ddioddefodd ataliad y galon.” meddai Mike. “Rwy’n teimlo’n hynod falch ohonof fy hun.”

Meddai Mike “mae hyfforddiant cymorth cyntaf a diffibriliwr mor bwysig; po fwyaf hyderus sydd gan bobl i helpu eraill, gorau oll.”

Dywedir bod siawns claf o oroesi yn cael ei leihau 10% am bob munud sy’n mynd heibio heb weithredu yn dilyn ataliad ar y galon. Po gyflymaf y byddwch yn gweithredu, y mwyaf o siawns sydd gennych i achub bywyd.

Dywedodd Gareth Parsons, hyfforddwr Mike;

“Er fy mod wedi bod yn hyfforddwr Cymorth Cyntaf yn y Gwaith ers bron i 30 mlynedd, ac yn ôl pob tebyg wedi hyfforddi hyd at 50,000 o bobl mewn cymorth cyntaf i oedolion a phlant, mae bob amser yn galonogol dysgu am y sgiliau hynny sy’n cael eu rhoi ar waith wrth helpu i wneud i achub bywyd yn y gymuned.”

“Da iawn i Mike a’i dîm o gynorthwywyr. Mae’n hollol wych, rydw i mor falch ohonoch chi i gyd.”

Nod ymgyrch Diffibriliwr St John Ambulance Cymru yw dysgu cymaint o bobl â phosibl y wybodaeth CPR a diffibriliwr hanfodol sydd eu hangen i achub bywyd. Mae’r ymgyrch sy’n rhedeg drwy gydol mis Chwefror hefyd yn annog cymunedau yng Nghymru i leoli a chofrestru eu diffibriliwr agosaf gan ddefnyddio The Circuit. Mae hyn er mwyn i gymunedau allu adnabod eu diffibriliwr agosaf yn hawdd mewn argyfwng.

Cofrestrwch ar gyfer un o gyrsiau hyfforddi St John Ambulance Cymru yn www.sjacymru.org.uk/cy/page/training fel y gallwch chithau hefyd fod yn hyderus wrth ddefnyddio diffibriliwr, neu gyfrannu yma i gefnogi gwaith achub bywyd St John Ambulance Cymru mewn cymunedau ar draws Cymru.

Ewch i www.thecircuit.uk i ddod o hyd i’ch diffibriliwr agosaf a’i gofrestru heddiw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle