Cyngherddau Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn dychwelyd i Theatrau Sir Gâr

0
1139
Ffwrnes_Bont

Bydd y cyngherddau poblogaidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn dychwelyd i Theatrau Sir Gâr eleni ac mae dau ddigwyddiad arbennig wedi cael eu cyhoeddi. Ar ôl bwlch o dair blynedd oherwydd y pandemig, cynhelir y digwyddiadau eleni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, a Theatr y Glowyr, Rhydaman, a hefyd gallwch ddewis ffrydio’r cyngerdd i’ch cartref.

Bydd Theatr y Ffwrnes yn Llanelli yn cynnal ei chyngerdd Dydd Gŵyl Dewi nos Fawrth 28 Chwefror am 7pm. Bydd Côr Meibion Pontarddulais, sydd wedi ennill gwobrau, yn perfformio, ynghyd â’r telynor rhyngwladol, Dylan Cernyw. Bydd disgyblion Ysgol Gymraeg Llangennech hefyd yn arddangos eu doniau, yn ogystal â dau o gantorion y rhaglen Rising Starts gan Loud Applause, sef y soprano, Lauren Elizabeth Williams, a’r tenor, James Oakley. Bydd y noson yn cael ei chynnal yn ddwyieithog gan y darlledwr, Garry Owen.

Samuel Wyn Morris

Os nad ydych chi’n gallu dod i’r cyngerdd, bydd cyngerdd y Ffwrnes yn cael ei ffrydio’n fyw o Lanelli i gynulleidfaoedd yn eu cartrefi. Gall cartrefi gofal ledled y sir ffrydio’r cyngerdd yn fyw am ddim. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ffrydio byw am ddim, gofynnir i gartrefi gofal gysylltu â’r theatr drwy e-bostio theatrau@sirgar.gov.uk neu ffonio’r swyddfa docynnau ar 0345 226 3510.

Bydd dathliad Rhydaman yn cael ei gynnal ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, sef nos Wener 3 Mawrth am 7pm. Bydd perfformwyr arbennig yn cymryd rhan yn y cyngerdd a bydd yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan seren y West End, Samuel Wyn-Morris, Côr Lleisiau’r Cwm ac Ensemble Lleisiol Ysgol Dyffryn Aman. Heddyr Gregory fydd yn cyflwyno’r noson.

Ffwrnes_Dylan Cerynw

Y cyngerdd eleni fydd y nawfed flwyddyn i Theatrau Sir Gâr ffurfio partneriaeth â Loud Applause Productions i gynhyrchu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi y theatrau. Mae’r digwyddiad blynyddol yn denu cynulleidfaoedd o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, a hyd yn oed o’r tu allan i’r sir. Dyma fydd yr eildro i’r cyngerdd fod ar gael i gynulleidfaoedd yn rhithiol hefyd, gan mai ar-lein yn unig y gellid gwylio cyngerdd 2021 oherwydd y cyfyngiadau ar y pryd. 

Glowyr_Cor Lleisiau’r Cwm

Mae Samuel Wyn-Morris yn un o sêr y West End sy’n dod o Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanelli ac mae newydd gwblhau taith 14 mis o Les Misérables, gan chwarae’r brif ran, Enjolras. Cafodd Sam ganmoliaeth fawr am y rhan ac roedd ei berfformiad olaf yn ‘Les Miz’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae’n falch iawn o ddychwelyd i’w sir enedigol ar gyfer y dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Mae tocynnau ar gyfer y ddau gyngerdd a’r gwasanaeth ffrydio byw ar werth nawr. Archebwch ar-lein ar y wefan theatrausirgar.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle