Mae Cyfarwyddwr Sibley’s Solutions Ltd yn Rhydaman wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin.
Plediodd James Sibley yn euog i droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn Llys y Goron Abertawe am bum achos gwahanol lle cytunodd i wneud gwaith adeiladu/tirlunio, a derbyniodd gyfanswm o £34,290.77 gan ei ddioddefwyr am y gwaith hwnnw.
Roedd y gwaith a wnaed o ansawdd gwael iawn ac mewn rhai achosion ychydig iawn o waith a wnaed, neu ddim gwaith o gwbl, er bod y dioddefwyr wedi talu am y gwasanaethau hyn.
Dedfrydodd y Llys Sibley i:
- 16 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 12 mis
- 100 awr o waith di-dâl
- £12,000 o iawndal i’w rannu rhwng y pum dioddefwr
- Cael ei wahardd rhag bod yn Gyfarwyddwr y Cwmni am 4 blynedd
Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Safonau Masnach: “Honnodd James Sibley ar gam ei fod yn grefftwr proffesiynol ac rwy’n falch bod ein tîm Safonau Masnach wedi cael canlyniad cadarnhaol i’w ddioddefwyr.
“Pan fyddwch yn gofyn i rywun wneud gwaith yn eich cartref, byddwch yn wyliadwrus bob amser, gwnewch ymchwil cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb a byddwch yn ofalus wrth dalu arian ymlaen llaw.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am grefftwr i wneud gwaith yn eu cartref i ddefnyddio’r cynllun Prynu â Hyder i ddod o hyd i fasnachwr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach. Mae pob busnes a restrir gyda ‘Prynu â Hyder’ wedi llwyddo mewn nifer o wiriadau er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl eich bod yn dewis busnes dibynadwy i wneud y gwaith.”
Wrth ddewis masnachwr i wneud gwaith yn eich cartref, dilynwch yr awgrymiadau hyn:
- Sicrhewch eich bod yn cael o leiaf dri dyfynbris i gymharu prisiau
- Peidiwch â thalu’n llawn nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau a’ch bod yn fodlon ar y safon orffenedig
- Sicrhewch eich bod yn cael manylion am y gwaith yn ysgrifenedig
- Gofynnwch i’r Cyngor os nad ydych yn siŵr a fydd angen cael caniatâd cynllunio/rheoliadau adeiladu ar gyfer y gwaith
- Cymerwch eich amser. Peidiwch â gadael i neb eich brysio i wneud penderfyniad
- Os ydych yn cytuno ynghylch contract yn eich cartref, efallai y bydd gennych gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod.
Ewch i wefan y Cyngor i weld masnachwyr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach.
https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/safonau-masnach/prynwch-efo-hyder
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle