Lansio bysiau trydan newydd T1 TrawsCymru

0
243
Traws Cymru Nant y Ci Depot

Mae bysiau trydan newydd sbon wedi cael eu dadorchuddio heddiw ar gyfer llwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Bydd y bysiau modern iawn hyn yn dechrau gwasanaethu ar 26 Mawrth ac yn cael eu lleoli mewn depo gwefru newydd yng Nghaerfyrddin.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:

“Mae bysiau yn chwarae rhan hanfodol yn cadw ein cymunedau yn gysylltiedig ac yn cynnig dewis trafnidiaeth cynaliadwy i bobl yn hytrach na’r car.

“Bydd cyflwyno bysiau trydan newydd sbon yn rhoi hwb mawr i wasanaeth TrawsCymru ac mae’n gam pwysig arall ymlaen i gyflawni ein huchelgais ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlfodd, integredig a charbon isel o ansawdd uchel ledled Cymru.”

Ymunodd swyddogion o Trafnidiaeth Cymru (TrC), Cyngor Sir Caerfyrddin, gweithredwr llwybrau First Cymru a’r cyflenwr bysiau Pelican â Lee Waters AS mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin heddiw cyn mynd ar daith ar un o’r bysiau newydd i agor yn swyddogol y depo a’r man gwefru newydd sydd wedi’i adeiladu’n arbennig yn Nant-y-Ci.

Y tendr T1 a ddyfarnwyd i First Cymru yw’r contract TrawsCymru cyntaf i gael ei reoli gan TrC.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC: “Mae llawer iawn o waith caled wedi’i wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn gwneud lansiad y gwasanaeth gwell hwn yn bosibl, gan ddod ag arbenigwyr yn ein tîm bysiau ynghyd – pawb o weithredwyr bysiau masnachol, cynllunio trafnidiaeth a datblygu rhwydwaith.

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwirioneddol o ran cynnig sawl dull o deithio’n gynaliadwy, gan wella cysylltiadau rhwng bysiau a threnau drwy amserlenni cydgysylltiedig, tocynnau a thechnoleg i greu rhwydwaith sy’n gweithio i bawb.

“Mae’r bysiau newydd sbon hyn yn gosod safonau newydd ar gyfer profiad a chysur cwsmeriaid.”

Dywedodd y Cyng Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Isadeiledd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwy’n croesawu cyflwyno’r fflyd hon o fysiau trydan newydd sbon a fydd yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus modern carbon isel hanfodol i bobl Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i gyflawni’r prosiect hwn, a oedd yn cynnwys caffael y fflyd bysiau a dylunio ac adeiladu’r depo gwefru newydd yn Nant y Ci, Caerfyrddin.”

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’n wych gweld gwasanaeth bws T1, rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, yn cael ei uwchraddio i gynnwys fflyd o gerbydau allyriadau isel, cynaliadwy.

“Trwy symud oddi wrth tanwydd ffosil i bweru bysiau, mae opsiwn gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy ecogyfeillgar yn cael ei ddarparu.  Bydd y bysiau trydan hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatgarboneiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â’n hymrwymiad lleol, cenedlaethol a byd-eang i garbon sero-net.”

Mae nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo wedi cael eu cynnal yn ddiweddar yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r adborth a gafwyd gan deithwyr am y bysiau newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Mae’r bysiau’n cynnig nifer o nodweddion modern gan gynnwys goleuadau darllen, byrddau, gwefru diwifr a socedi USB, breichiau cadair, sgriniau gwybodaeth a system puro aer. 

“Mae gan fysiau rôl bwysig a chyffrous i’w chwarae yn symudiad parhaus Cymru tuag at deithio mwy cynaliadwy,” meddai Chris Hanson, Rheolwr Cyffredinol First Cymru. 

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i redeg llwybr T1 a’r fflyd drydan syfrdanol hon.  Mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth First Cymru bob dydd i deithio ar draws trefi a siroedd De Cymru.  Ond rydyn ni’n gwybod y bydd llawer mwy yn gwneud yr un peth wrth i fysiau esblygu i gynnig holl fanteision trydan i gwsmeriaid a’u cymunedau.” 

Amcangyfrifir y byddai taith y bws T1 o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn arbed 14804g o CO2 o’i gymharu â defnyddio’r car – byddai hyn yn gyfwerth a chadw bwlb golau ymlaen am 4174 awr (174 diwrnod).

Dywedodd Ian Downie, Pennaeth YUTONG UK, Pelican Bus and Coach: “Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a TrC i ddatblygu manyleb bwrpasol ar gyfer y gwasanaeth hwn.  Mae’r tîm cyfunol wedi cynhyrchu manyleb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda seddi tebyg i’r rhai mewn coets a fydd yn ychwanegiad at wneud y daith yn un esmwyth a chysurus.

“Gellir gwefru’r cerbydau hyn yn eithriadol o gyflym – a hynny dros nos, a gellir eu gwefru mewn llai na 1.5 awr.  Rydym yn falch iawn o’r canlyniad hwn, a bydd y cerbydau hyn yn rhoi rheswm eithriadol o dda i deithwyr deithio ar gerbydau allyriadau sero.  Gall un cerbyd gymryd lle 14 o geir gyda 5 o bobl y tu mewn i bob un.  Gall hyn wneud cyfraniad sylweddol at leihau allyriadau carbon.”

Embedded video on YouTube

Mae gwybodaeth am y gwasanaeth T1 newydd ar gael yn   www.traws.cymru   a chyda’r ap newydd, gallwch brynu tocynnau, tracio’r bws a gweld faint o garbon y gallwch ei arbed o deithio ar y bws. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle