Elusen y GIG yn cefnogi nyrsys tramor sy’n dod i weithio yng ngorllewin Cymru

0
284

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu diwrnodau datblygu tîm ar gyfer mwy na 100 o nyrsys a recriwtiwyd o dramor i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, diolch i roddion.

Mae’r rhaglen recriwtio hon yn rhan o fenter llywodraeth Cymru gyfan, gyda nyrsys o wledydd fel India, Ynysoedd y Philipinau, Affrica a Sri Lanka yn cael eu penodi fel un mesur i fynd i’r afael â diffygion staff mewn lleoliadau clinigol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dechreuodd y nyrsys gyrraedd yng ngwanwyn 2022 a bydd carfannau’n parhau i gael eu croesawu i flwyddyn newydd 2023. Maent wedi’u dyrannu i ardaloedd clinigol ar draws ysbytai Glangwili, Bronglais, Llwynhelyg a Thywysog Philip. Gobeithir hefyd y bydd y rhaglen recriwtio yn parhau yn y flwyddyn nesaf.

Mae’r nyrsys tramor yn cael cymorth gan dîm bwrdd iechyd eang, wrth iddynt basio drwy’r broses recriwtio a sefyll yr arholiadau angenrheidiol. Yn ogystal, mae pedair Nyrs Cyswllt Tramor – Jerelyn Bevan, Andrea Hughes, Rachel Hughes ac Alison Russell – a’u rôl yw helpu’r nyrsys tramor i setlo yn y meysydd clinigol a dechrau eu swyddi.

Dywedodd Jerelyn: “Rydym mor falch o fod wedi derbyn cyllid o £1,500 gan Elusennau Iechyd Hywel Dda ar gyfer diwrnodau datblygu tîm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar gyfer ein nyrsys tramor.”

Ychwanegodd Rachel: “Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan nyrsys am fanteision y diwrnodau datblygu sydd, fel rhan o’r broses sefydlu, yn helpu i hybu integreiddio yn y gymuned. Mae nyrsys wedi gwneud sylwadau ar amgylchedd anhygoel yr Ardd Fotaneg ac wedi dweud cymaint y maent wedi elwa.”

“Mae cadw ein nyrsys tramor yn hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel parhaus ein gofal cleifion rhagorol,” ychwanegodd Alison. “Bydd sicrhau bod y staff newydd hwn o dramor yn ymgartrefu’n dda yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu i gleifion.”

Dywedodd y Nyrs Dramor Oluwakemi Adesola: “Hyd yn hyn, rwy’n gweld popeth am Gymru mor brydferth: yr awyr las gyda rhannau llwyd, y glaswellt gwyrdd, y tywydd na ellir ei ragweld a phelydryn o heulwen achlysurol. Wedi cael amser da hyd yn hyn. “

Ychwanegodd Nyrs Vongayi Mashungu: “Rwy’n teimlo nad oes terfyn i fy nhaith yng Nghymru. Fi fydd y bont i helpu fy nghydweithwyr, teulu a chleifion.”

Mae nyrsys tramor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymhlith 500 sy’n cael eu croesawu ledled Cymru eleni o dan fenter Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

“Rydym yn falch ein bod, diolch i roddion, wedi gallu ariannu diwrnodau sefydlu a hyfforddi ar gyfer ein nyrsys gwerthfawr sy’n cyrraedd o dramor.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle