Dywed Llyr Gruffydd o Blaid Cymru y bydd toriadau i fysiau yn gadael cymunedau “heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus”
Mae llythyr a ddatgelwyd gan CLlLC wedi datgelu bod cynghorwyr Llafur blaenllaw yn credu y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri arian bysiau yn gwahanu cymunedau.
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, fod y llythyr yn dangos bod pryderon difrifol ei blaid am ddyfodol trafnidiaeth drwy Gymru gyfan yn cael eu rhannu gan gynghorwyr ym mhob rhan o Gymru ac anogodd y Llywodraeth Lafur i ailfeddwl am y toriadau ariannol.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, dyddiedig 13eg Mawrth, amlinellodd y Cynghorwyr Llafur Andrew Morgan a Rob Stewart, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sawl mater ym mholisi cludiant “o’r brig i lawr” Llywodraeth Cymru, a oedd yn achosi “storm berffaith i gymunedau”, a dull o gyflwyno newid mewn polisi trafnidiaeth sydd cosbi yn hytrach na chefnogi.
Roedd y llythyr at y Prif Weinidog yn amlinellu sawl maes oedd yn peri pryder, gan gynnwys:
• Yr Adolygiad Ffyrdd, lle roedd trafodaethau cyfyng iawn gydag Arweinwyr y Cynghorau, a hynny wedi i’r adolygiad ddod i’w gasgliadau, a’r “natur creu polisi wrth ddesg.”
• Cynllunio “rhoi’r cart o flaen y ceffyl”, gan gyfeirio at y diffyg buddsoddiad mewn dewisiadau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus sydd eu hangen i annog pobl allan o geir ac ymlaen at drafnidiaeth gyhoeddus.
• “Cynifer y materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth” sy’n gadael cynghorau o dan straen, gyda mwy o gynigion gan Lywodraeth Cymru yn rhoi staff priffyrdd a trafnidiaeth cynghorau o dan bwysau mawr. Codwyd bryder hefyd y byddai goblygiadau polisïau fel yr un 20mya ar drafnidiaeth ysgol a chynlluniau gwasanaeth gaeaf, gyda angen gwneud trefniadau ar gyfer shifftiau hirach.
• Pryderon cefn gwlad, ble nad oes gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd – a sgil effaith hyn ar ddatblygiad economaidd, a lle mae teithio llesol “ddim yn opsiwn realistig”.
• Anghydraddoldeb cymdeithasol a chadw mas llawer o drigolion lle mae “trafnidiaeth gyhoeddus yn ‘rhaff achub’ gan nad ydyn nhw naill ai’n gallu fforddio, neu’n methu, gyrru.”
• Pryderon am ymddygiad y Dirprwy Brif Weinidog sydd wedi arwain at gynghorwyr i fod yn “bryderus am natur y ddadl a thôn y cyfarfodydd”.
Cynhaliodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar ddyfodol y Cynllun Argyfwng Bysiau yn gynharach yr wythnos hon, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i’r cynllun gael ei ymestyn am o leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. Galwodd y cynnig hefyd ar y llywodraeth i gyflwyno opsiynau cyllido diogel hirdymor i gynnal gwasanaethau bws, yn hytrach na chynlluniau ariannu brys.
Cafodd y ddwy alwad eu gwrthod gan y Llywodraeth Lafur a’r dirprwy weinidog trafnidiaeth, Lee Waters.
Roedd sylwadau’r llythyr i’w gweld yn cytuno â galwadau Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer bysiau yn y tymor hir. Dywedodd y Cynghorwyr Andrew Morgan a Rob Stewart:
“Mae croeso i’r ffaith bod [Cyllid Bysiau] yn cael ei ymestyn, ond mae galwad am ffyrdd i wneud y cyllid yn barhaol fel bod modd gwarchod gwasanaethau. Er nad yw niferoedd y teithwyr wedi adfer ar ôl Covid, ni fyddan nhw byth os bydd gwasanaethau’n dechrau cael eu torri ar draws Cymru. […] “Mae colli gwasanaethau bws o bosib yn ddinistriol i’r grwpiau hyn [pobl hŷn, pobl ifanc, pobl ag anableddau ac aelwydydd incwm isel], gan effeithio ar eu lles drwy gyfyngu mynediad at wasanaethau addysgol, economaidd, iechyd a hamdden ac i gysylltiadau teuluol a chymdeithasol.”
Wrth ymateb i’r llythyr beirniadol, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Llyr Gruffydd AS:
“Mae’n glir bod pryderon difrifol Plaid Cymru am ddyfodol trafnidiaeth ledled Cymru yn cael eu rhannu gan gynghorwyr ym mhob rhan o Gymru. Yn benodol, mae llawer iawn o bryder am ddyfodol gwasanaethau bws a fydd, fel y maent ar hyn o bryd, yn gadael cymunedau wedi’u gwahanu. Dyma pam y cyflwynodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd yr wythnos hon ar ddyfodol y Cynllun Argyfwng Bws. “
“Mae cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru ar fysiau ar fin gadael cymunedau heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai hyn fod yn drychinebus i lawer – yn enwedig pobl hŷn, grwpiau bregus, cymunedau tlotach, a‘r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
“Roedd darllen hefyd yn llythyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Prif Weinidog bod materion yn ymwneud ag ymddygiad y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, yn enwedig natur y ddadl a naws y cyfarfodydd, yn peri gofid.
“Wrth wraidd unrhyw gynllun i sicrhau dyfodol gwyrddach i Gymru gyfan rhaid fod yna system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i gwella ac sydd ar gael yn gyfartal i bawb. Mae rhaid i unrhyw gynllun sy’n ceisio mynd i’r afael â hyn sicrhau ei bod yn mynd â phawb yng Nghymru ar y daith honno.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle