Bydd grisiau hyfforddi yn helpu cleifion yn Ysbyty Glangwili

0
254
Uchod: Yn y llun gyda'r grisiau hyfforddi mae'r Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol Denise Thomas a'r Gweithiwr Cymorth Generig Richard Toth

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu darparu grisiau hyfforddi i helpu cleifion yn Ysbyty Glangwili, diolch i roddion lleol.

Mae’r grisiau wedi’u lleoli yn yr Hyb Therapïau ac ar gael i’w defnyddio gan gleifion ar bob ward ac yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Dywedodd Hannah Thomas, Arweinydd Gwasanaeth Ffisiotherapi: “Mae angen grisiau i asesu a yw rhai cleifion – yn enwedig y rhai sy’n fregus a’r rhai sy’n gwella ar ôl cwympo, torri asgwrn neu strôc – yn ddiogel i’w rhyddhau adref.

“Nid yw bob amser yn briodol ymarfer ar y prif risiau yn Ysbyty Glangwili oherwydd eu bod bob amser yn brysur iawn, a all fod yn frawychus i gleifion. Felly, gellir mynd â chleifion i’r Hyb Therapïau i roi cynnig ar y grisiau hyfforddi mewn heddwch a thawelwch.”

Ychwanegodd Hannah: “Mae hwn yn ddarn hanfodol o git therapi ac o fudd enfawr i les ein cleifion o ran caniatáu iddynt ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl.

“Maen nhw hefyd yn caniatáu i glinigwyr nodi namau a’u cynorthwyo i wneud penderfyniadau ynghylch cynlluniau triniaeth, ac ar gyfer adsefydlu i wella cryfder, cydbwysedd a chydsymud.”

Yn y llun gyda’r grisiau hyfforddi mae’r Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol Denise Thomas a’r Gweithiwr Cymorth Generig Richard Toth.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle