Dathlu 100 mlynedd o Gadetiaid St John Ambulance Cymru

0
252

Eleni, mae St John Ambulance Cymru yn dathlu 100 mlynedd o Gadetiaid yng Nghymru. Dechreuodd y dathliadau yn Adran Maesteg St John Ambulance Cymru, lleoliad grŵp Cadetiaid St John Ambulance Cymru cyntaf erioed Cymru.

Mae rhaglen Cadetiaid St John Ambulance Cymru nid yn unig yn anelu at ddysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol i bobl ifanc Cymru sydd eu hangen i achub bywyd, ond mae hefyd yn darparu sgiliau ehangach i bobl ifanc y gallant eu cymryd yn eu bywydau proffesiynol a phersonol.

Ers ffurfio Adran gyntaf y Cadetiaid ym Maesteg ar 12fed Mawrth 1923, mae rhaglen y Cadetiaid wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ledled Cymru roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau drwy fod yno i bobl ar adegau o angen.

Cynhaliwyd y dathliadau yn gynharach y mis hwn yn neuadd yr Adran yng nghanol tref Maesteg. Edrychodd y mynychwyr trwy’r arteffactau hanesyddol amrywiol a arddangoswyd, o hen gitiau cymorth cyntaf i lythyrau a ffotograffau o Gadetiaid y gorffennol. Siaradodd Syr Paul Williams OBE, KStJ, DL, Prior Cymru a Mali Stevenson, 16 oed, Cadet Cenedlaethol y Flwyddyn St John Ambulance Cymru, yn y derbyniad. Myfyriodd y ddau ar hanes rhaglen y Cadetiaid a’i phwysigrwydd heddiw.

Dwedodd Mali am ei phrofiadau fel Cadet; “Mae bod yn Gadet St John Ambulance Cymru wedi helpu’n aruthrol i gynyddu fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu. Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â llawer o bobl ifanc eraill fel rhan o’m taith, ac ni fyddai’r person ydw i heddiw heb fy mhrofiadau gyda nhw.”

“Gallwn ni i gyd fod yn ddiolchgar i bawb yma heddiw, ac ar draws y wlad gyfan, sydd wedi caniatáu i gymuned y Cadetiaid ffynnu ac ehangu dros y 100 mlynedd diwethaf”

“Rydych chi i gyd wedi gwneud bod yn Gadét yn brofiad gwerth chweil ac rwy’n siŵr y gallaf siarad ar ran yr holl Gadetiaid pan ddywedaf ein bod yn ddiolchgar iawn am eich ymdrechion. Mae St John Ambulance Cymru yn wasanaeth hanfodol ac mae’r hyn y mae’r sefydliad hwn yn ei wneud i ysbrydoli cyfranogiad gan bobl ifanc yn anhygoel.

Helpodd Kimberley Burns, Swyddog Datblygu Pobl Ifanc St John Ambulance Cymru i drefnu’r derbyniad.

Meddai, “Fe wnaeth y digwyddiad ein helpu i arddangos yr Is-adran a diolch i’n gwirfoddolwyr presennol am eu hymroddiad i’n mudiad.”

“Heb waith caled gwirfoddolwyr y gorffennol a’r presennol, ni fyddai uned Cadetiaid Maesteg wedi gallu parhau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weddill blwyddyn ein canmlwyddiant, i ddathlu gwaith caled ein gwirfoddolwyr sy’n oedolion, a llwyddiannau Cadetiaid ledled Cymru.”

Roedd y derbyniad yn nodi dechrau blwyddyn gyfan o ddathlu canmlwyddiant y Cadetiaid. I ddarganfod mwy am y rhaglen Cadetiaid, ewch i www.sjacymru.org.uk/cadets.

A picture containing person, indoor, floor, standingDescription automatically generated
Some Masteg Division members at the reception.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle