“Ni chafodd y rhai a gymerodd ran eu barnu, ond eu caru” – y digwyddiadau Balchder sy’n helpu i gynyddu gwelededd pobl LHDTC+ yng Nghymru

0
261
Pride Cymru LGBTQ

Ar Ddiwrnod Dathlu Trawsrywedd, mae mwy o gymunedau ledled Cymru’n cael eu hannog i wneud cais am arian i gynnal digwyddiad Balchder i sicrhau bod pob person LHDTC+ yn gallu cymryd rhan a dathlu bod yn nhw eu hunain yn eu hardal leol.

Roedd data’r Cyfrifiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod pobl LHDTC+ yn byw ac yn cymryd rhan ym mhob rhan o Gymru, ac felly mae Cronfa Balchder Llawr Gwlad Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i ddatblygu a threfnu digwyddiadau Balchder llai o faint i sicrhau eu bod yn ffynnu.

O’r Barri i Fangor, mae dathliadau Balchder bellach yn cael eu cynnal ledled Cymru bob blwyddyn – gan helpu mwy o bobl i deimlo’n rhydd, yn ddiogel ac wedi’u cefnogi wrth i’r genedl barhau i geisio cyrraedd ei nod o fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.

Mae digwyddiadau fel Balchder y Bont-faen yn dod â phobl at ei gilydd, yn cynyddu gwelededd ac yn lleihau ynysu gwledig. Dywedodd y trefnydd Ian ‘H’ Watkins ei fod yn teimlo’n angerddol am gynnig cynrychiolaeth i’r rhai a oedd ei angen yn ei gymuned:

Ian ‘H’ Watkins – Credit Gordon Sutherland

“Fy nhref leol i yw hi a lle mae fy mhlant yn tyfu i fyny, ac roeddwn yn teimlo bod llawer o bobl yn y gymuned LHDTC+ nad oedden nhw’n cael eu cynrychioli ac felly fe wnes i benderfynu bod yn llais iddynt.

“Y digwyddiadau Balchder mewn trefi a dinasoedd mawr yw’r uchafbwyntiau, ond yn fy marn i y rhai pwysicaf yw’r rhai sy’n digwydd mewn trefi bach.

“Fel dyn hoyw, rwyf wedi tyfu fyny ar adeg o newidiadau niferus yn y gymuned LHDTC+. Gallwn ddod i arfer â phobl yn galw enwau arnom a chael ein gwthio i gefn y ciw a gorfod magu croen trwchus – ond fe wnaeth y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch i’r holl gymuned LGBTQ+ yn y nigwyddiad Balchder y Bont-faen wneud cryn argraff arnaf.

“Roeddwn i’n methu credu’r peth ac fe aeth y tu hwnt i fy nisgwyliadau i gyd.”

Mae hawliau LHDTQ+ wedi’u gwreiddio yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac mae Gweinidogion wedi ymrwymo i sicrhau newid ystyrlon ar gyfer pob cymuned LHDTC+.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Trawsrywedd yn benodol i ddathlu pobl draws ac mae digwyddiadau Balchder yn enghraifft berffaith o fannau diogel lle gall pobl fyw a dathlu fel nhw eu hunain.

Ian ‘H’ Watkins – Credit Gordon Sutherland

Roedd digwyddiad Balchder y Bont-faen y llynedd yn cynnwys sioe ffasiwn a wnaeth gynnwys modelau traws yn benodol. Ychwanegodd Ian:

“Roedd yr ymateb yn anhygoel. Ni chafodd y rhai a gymerodd ran eu barnu ond yn hytrach eu cofleidio â chariad, fel rhan o gymuned a theulu hyfryd. Rwy’n falch iawn o hynny.”

Yn gynharach eleni, lansiwyd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ fel rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, a ddangosodd ymrwymiad clir i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd.

Mae’r Cynllun yn tanlinellu bwriad Cymru i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant, ac roedd cefnogaeth barhaus i sefydliadau balchder a digwyddiadau balchder lleol yn un o’i gamau gweithredu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

“Yma yng Nghymru, rydym eisiau sicrhau bod cynrychiolaeth ym mhob tref, dinas a phentref fel rhan o’n huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. I chwarae ein rhan i ddarparu llwyfan i sicrhau y gall pob person LHDTC+ gymryd rhan a mwynhau popeth sydd gan ddigwyddiadau Balchder i’w gynnig.

“Rwy’n gwybod o brofiad personol y gwahaniaeth mae digwyddiadau Balchder mewn cymunedau lleol ar draws y wlad yn ei wneud. Pan oeddwn i’n tyfu fyny yng Ngogledd Cymru, ni fyddwn byth wedi gallu dychmygu digwyddiad Balchder lleol ac mae gweld digwyddiadau Balchder yn cael eu cynnal ar draws y wlad nawr yn golygu llawer i mi.”

I gael rhagor o wybodaeth am fynegi ddiddordeb i drefnu digwyddiad Balchder ar lawr gwlad yng Nghymru, ewch i llyw.cymru/cronfabalchderllawrgwlad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle