Y cyflwynydd teledu Owain Wyn Evans yn annog cynulleidfa i fentro

0
342
Owain Wyn Evans addresses event

Mae Owain Wyn Evans, darlledwr ar y teledu a’r radio, wedi annog aelodau cynulleidfa yn Abertawe i fod yn driw iddynt hwy eu hunain a pheidio â bod yn rhy ofnus i fentro. 

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Arena Abertawe, rhannodd cyn-gyflwynydd y tywydd ei lwybr o’i wreiddiau yn tyfu i fyny yn Rhydaman i ennill bri ar y teledu a lansio ei sioe ei hun bellach ar BBC Radio 2.   

Owain oedd y prif siaradwr yn y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, lle daeth gwesteion o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd am ddiwrnod o ysbrydoliaeth, arddangosiadau rhyngweithiol, rhwydweithio a rhannu syniadau. Siaradodd yn frwd am gyfraniad cadarnhaol rhyngweithio, cydweithredu ac arloesi at ei yrfa.

Rhannodd ei brofiad o gymryd rhan yn Freeze the Fear gyda Wim Hoff ac effeithiau buddiol therapi dŵr oer ar iechyd meddwl, yn ogystal â’i waith ymgyrchu ynghylch materion LGBTQ+ a’i Drumathon yn 2022 a gododd fwy na £3.8m i Blant mewn Angen. 

Anogodd Owain y gynulleidfa i ddilyn dau awgrym clir: byddwch yn driw i chi eich hun a byddwch yn barod i fentro – anfonwch yr e-bost hwnnw! 

Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys yr Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol, a Dr Jen Allanson, sy’n arbenigo mewn rhwydweithio, ac ymunodd rhestr o banelwyr â hwy i rannu eu profiadau cadarnhaol o weithio gyda Phrifysgol Abertawe. 

Meddai’r Athro Evans: “Mae cydweithredu – yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang – yn tanategu holl weithgarwch ein Prifysgol a’n Cyfadrannau. Mae’n fraint fawr i ni fod yn rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe ac rydyn ni’n dathlu’r etifeddiaeth honno. Rydyn ni’n cydnabod mai prifysgol y rhanbarth yw ein Prifysgol ni, a bod gennyn ni gyfrifoldeb i weithio gyda’n cymuned a Chymru ac er eu lles nhw. 

“Daeth y digwyddiad hwn â phobl ynghyd sydd wir yn ymroddedig i’n cymuned, i gyfnewid gwybodaeth, creu cysylltiadau newydd, archwilio cyfleoedd i gydweithredu ac, yn y pen draw, arallgyfeirio a thyfu ar y cyd.” 

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i gefnogi’r gymuned leol ac mae’n chwilio am ffyrdd creadigol a chydweithredol o ddenu mewnfuddsoddiad a sbarduno ei effaith bosib ar y rhanbarth. Rydym yn parhau i fynd ati’n rhagweithiol i feithrin perthnasoedd â chyllidwyr, datblygu a thyfu ein cymuned ymchwil ffyniannus yma yn Abertawe, ynghyd â chyflwyno digwyddiadau allanol fel y diwrnod rhyngweithio hwn. 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyllid a chymorth sydd ar gael i hwyluso mentrau cydweithredol, digwyddiadau yn y dyfodol a sut i archwilio cyfleoedd i gydweithio â’r Brifysgol a/neu gofrestru â rhwydwaith ymgysylltu’r Brifysgol, LINC


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle