Elusen y GIG yn prynu cymhorthion hyfforddi ar gyfer staff bydwreigiaeth Hywel Dda

0
216
Uchod: Gwelir y fydwraig a hwylusydd PROMPT, Rochelle Radcliffe (chwith) yn rhoi hyfforddiant gyda'r modelau newydd i Fydwragedd Vicki Dawson John a Rhian Byrne yn Ysbyty Dyffryn Aman. Yn y cefndir mae'r Fydwraig Jane Storey sy'n gweithio i PROMPT Cymru

Diolch i roddion gan gymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu dau fanicin hyfforddi newydd i’w defnyddio gan staff geni a bydwreigiaeth ar draws y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r manicinau efelychydd babanod a geni, sydd gyda’i gilydd yn costio mwy na £5,000, yn cael eu cludo o amgylch ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer diwrnodau hyfforddi.

Dywedodd y Fydwraig Datblygu Ymarfer Nicola Rees: “Mae Meddygon, Anesthetyddion, Bydwragedd, Nyrsys Newyddenedigol, Ymarferwyr Theatr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn mynychu hyfforddiant rheolaidd, gan gynnwys diwrnod o PROMPT (Hyfforddiant Aml-Broffesiynol Ymarferol mewn Obstetreg). Mae angen propiau penodol ar y dysgu hwn sy’n seiliedig ar senario.

“Mae’r modelau newydd hyn sy’n anatomegol gywir mor fuddiol ar gyfer hyfforddiant oherwydd eu bod yn efelychu sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae hyn yn helpu i roi’r canlyniadau gorau i famau a babanod.”

Gwelir y fydwraig a hwylusydd PROMPT, Rochelle Radcliffe (chwith) yn rhoi hyfforddiant gyda’r modelau newydd i Fydwragedd Vicki Dawson John a Rhian Byrne yn Ysbyty Dyffryn Aman. Yn y cefndir mae’r Fydwraig Jane Storey sy’n gweithio i PROMPT Cymru.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle