Swper cynhaeaf Bro Aeron Mydr yn codi £600 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
168
Left to right: Cassie Thomas - Chemotherapy Sister; Enid Jenkins; Wyn Maskell; Richie Richards; Becky Fletcher - Healthcare Support Worker

Cynhaliodd grŵp eglwysi Bro Aeron Mydr yng Nghanolbarth Ceredigion swper cynhaeaf a chodwyd dros £600 at Apêl Cemo Bronglais.

Mae’r grŵp yn cynnwys eglwysi Llanerchaeron, Ciliau Aeron a Dihewyd a Wyn Maskell yw eu ficer am y tair blynedd diwethaf.

Meddai Wyn: “Cynhaliom wasanaeth cynhaeaf nôl ym mis Hydref ac yna paratôdd aelodau a chyfeillion Eglwys Llanerchaeron swper cynhaeaf i ddilyn.

“Fe wnaethon ni godi dros £600 o’r cinio a’r rhoddion, ac eisiau ei roi i’r Apêl oherwydd ei fod yn lleol ac yn achos mor deilwng. Rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi elwa o’r driniaeth a’r gofal a ddarperir yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.”

Yn y llun yn y cyflwyniad siec mae (o’r chwith i’r dde): Cassie Thomas, Prif Nyrs Cemotherapi; Enid Jenkins; Wyn Maskell; Richie Richards, a Becky Fletcher, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd wedi bod yn rhedeg yr Apêl: “Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi pwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae’n bleser gennym adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged.

“Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i grŵp eglwysi Bro Aeron Mydr am eu cefnogaeth ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Apêl i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle