“ADENNILL EIN HENWAU CYMRAEG GWREIDDIOL YW ADENNILL EIN TREFTADAETH” – HELEDD FYCHAN AS

0
239
Heledd Fychan MS

Plaid Cymru’n cymeradwyo “cam positif wrth normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg” yn cyhoeddiad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Wrth ymateb i benderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddefnyddio ei enw Cymraeg yn unig – gan ollwng ‘Brecon Beacons National Park‘ – dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, Heledd Fychan AS:

“O’r Garn Goch a Charreg Cennen yn y gorllewin, i gopaon Pen y Fan, Cribyn a Chorn Du – mae’r Gymraeg eisoes yn rhan allweddol o’r Bannau Brycheiniog.

Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson ar y llywodraeth i warchod enwau lleoedd Cymraeg yn y gyfraith, ac mae’r penderfyniad hwn gan y Parc Cenedlaethol yn gam cadarnhaol o ran normaleiddio defnydd o’r Gymraeg. Wrth adennill ein henwau Cymraeg gwreiddiol, gallwn adennill ein treftadaeth, sy’n hanfodol os ydym am i’n iaith barhau i chwarae rhan yn nyfodol Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle