Dyma gyfle unigryw i berchnogion busnes lleol rwydweithio gyda’i gilydd, gwrando ar siaradwyr gwadd i’w hysbrydoli a dysgu am waith un o elusennau mwyaf newydd Sir Benfro.
Bydd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n dathlu ei phumed pen-blwydd eleni, yn cynnal ei Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Busnes cyntaf erioed ddiwedd mis Mehefin.
Mae’r ymddiriedolaeth a sefydlwyd yn 2018, gyda’r nod cyffredinol o warchod tirwedd eiconig y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, wedi bod yn gweithio dros y pum mlynedd diwethaf i wella mynediad i gefn gwlad gwych Sir Benfro, hybu bioamrywiaeth a chadwraeth, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chefnogi sgiliau a swyddi yn yr ardal.
Bydd y Digwyddiad Brecwast am ddim, sy’n cael ei noddir gan South Hook LNG, yn cynnwys tri siaradwr gwadd gyda chysylltiadau lleol – Lucie Macleod, sylfaenydd y brand gofal gwallt feiral Hair Syrup; Prif Weithredwr Ymwelwch â Sir Benfro, Emma Thornton; a Tom Bean, Parcmon Addysg gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Sir Benfro, mae’r Digwyddiad Rhwydweithio yn gyfle perffaith i greu cysylltiadau â busnesau eraill ledled y sir, cael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a chlywed gan ein siaradwyr gwadd gwych – a mwynhau brecwast blasus ar yr un pryd!
“Rydyn ni wedi cyflawni cymaint dros y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig drwy weithio mewn partneriaeth, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu rhannu hyn â’r gymuned fusnes ehangach. Hoffem ddiolch i South Hook LNG am eu cefnogaeth garedig sydd wedi ein galluogi i gynnig y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.”
Cynhelir Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn Neuadd y Frenhines yn Arberth am 8am, ddydd Mercher 28 Mehefin. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gallwch chi gadw lle drwy anfon e-bost at support@pembrokeshirecoasttrust.org.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a’i gwaith, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle