Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023…ydych chi’n barod i gymryd baton yr Academi Amaeth eleni – ai dyma’r cam sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau?

0
268
Capsiwn y llun: Llŷr Jones, arweinydd y rhaglen Busnes ac Arloesedd a Sam Alexander, arweinydd Rhaglen yr Ifanc

Mae’r gwaith o chwilio am ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023 yn dechrau ddydd Llun, 1 Mai, gyda’r cyfnod ymgeisio ar agor tan ddydd Gwener, 26 Mai.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf, mae’r Academi Amaeth, sef rhaglen datblygiad personol blaenllaw Cyswllt Ffermio, wedi dod â rhai o sêr amlwg y diwydiant amaethyddol yng Nghymru heddiw ynghyd. Wedi’i rhannu rhwng y rhaglen Busnes ac Arloesedd a Rhaglen yr Ifanc (i’r rhai 16 – 19 oed), bydd cyfres o sesiynau preswyl llawn gweithgareddau mentora, hyfforddi a rhwydweithio unwaith eto yn rhoi’r ysbrydoliaeth, y sgiliau a’r cysylltiadau y mae eu hangen ar ymgeiswyr llwyddianus eleni i ddod yn unigolion hyderus, sy’n anelu’n uchel, ym mha bynnag fusnes neu lwybr gyrfa maent yn ei ddewis.

“Rydyn ni yma i feithrin a chywain doniau a sgiliau entrepreneuraidd arloeswyr, dylanwadwyr a ffermwyr blaengar y dyfodol,” meddai Llŷr Jones, arweinydd y rhaglen Busnes ac Arloesedd, sydd ei hun yn un o gyn-fyfyrwyr yr Academi Amaeth. Roedd Llŷr, a aned yng Nghorwen, ac sy’n ffermio – ymhlith llawer o bethau eraill – yng Ngogledd Cymru, yn aelod o’r Academi Amaeth ddeng mlynedd yn ôl. Mae’n canmol y profiad am roi’r sgiliau a’r hyder iddo anelu’n uchel ac mae’n dweud bod y rhwydweithiau wedi helpu i’w drawsnewid o fod yn ffermwr ifanc brwd bryd hynny, i fod yn ddyn busnes profiadol.

Wedi’i ddisgrifio fel rhywun sydd ag entrepreneuriaeth yn rhedeg trwy ei wythiennau, mae’r arloeswr arbennig hwn wedi sefydlu nifer o fentrau llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys defaid, magu lloi, cynhyrchu wyau buarth, twristiaeth, ynni adnewyddadwy a Blodyn Aur – un o fentrau olew hadau rêp mwyaf blaenllaw Cymru.

Bydd rhaglen Llŷr yn cynnwys hyfforddiant a mentora er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant busnes, datblygu syniadau arallgyfeirio i sefydlu busnes neu fenter newydd a llawer mwy. Mae Llŷr wedi cynllunio rhaglen o deithiau astudio i rai o’r busnesau fferm mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn y DU a Canada, gwlad sydd eisoes ar flaen y gad o ran systemau ffermio ecogyfeillgar a ffyrdd cynaliadwy o weithio.

Bydd Rhaglen yr Ifanc yn cael ei harwain eleni gan raddedigwraig amaethyddiaeth ifanc, Samantha Alexander (27) a gafodd ei magu ar fferm wartheg a defaid ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae Sam, sy’n gyfathrebwr gwych gyda phersonoliaeth hyderus a brwdfrydig, yn deall yn iawn beth mae’n ei olygu i ddechrau fel newydd-ddyfodiad neu ddyfodiad ifanc i ffermio. Mae hi a’i gŵr yn dal yn optimistaidd y byddan nhw ryw ddydd yn dod o hyd i denantiaeth neu gyfle ffermio cyfran, ond am y tro mae hi’n mwynhau ei rôl fel rheolwr cynaliadwyedd i gwmni cyflenwadau amaethyddol mawr ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei rôl fel arweinydd Rhaglen yr Ifanc.

Mae amserlen Sam yn cynnwys hyfforddiant a mentora ar ‘darganfod eich llais’ o fewn y diwydiant, dysgu sgiliau’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â thaith astudio o amgylch yr Iseldiroedd – lle mae amaethyddiaeth a garddwriaeth yn aml yn mynd law yn llaw. Mae Sam yn dweud na all aros i gwrdd â’r grŵp eleni, a bydd yn eu hannog i fod yn agored i syniadau newydd, i leisio’u barn ac i ofyn cwestiynau sy’n herio’r status quo.

Mae Llŷr a Sam yn cytuno, os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, cymhelliant a’r anogaeth a fydd yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd newydd ac yn rhoi’r hyder i chi roi syniadau da ar waith, yna dylech wneud cais am ymuno ag Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.

“Mae gan yr Academi Amaeth hanes gwych o baratoi’r ffordd at lwyddiant busnes a gyrfa ar gyfer cymaint o’i chyn-fyfyrwyr – agor drysau a chreu cyfleoedd yw’r hyn rydyn ni’n ceisio gwneud, a dyna pam y dylech chi wneud cais heddiw!”

I gael rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd, dyddiadau’r sesiynau preswyl, gwybodaeth fanylach am yr hyn y mae rhaglen eleni’n ei gynnwys, ac i wneud cais, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle