Quentin Blake art yn denu pobl i WWT Llanelli

0
357

Bydd tri llwybr tymhorol sy’n amlygu’r gorau o fyd natur gwlyptir y DU yn rhedeg yn WWT Llanelli o 18 Mai tan Chwefror 2024 fel rhan o bartneriaeth rhwng y darlunydd enwog Syr Quentin Blake a’r Wildfowl & Wetlands Trust.

Trwy gydol y bartneriaeth, “Drawn to Water: Quentin Blake at WWT”, bydd Canolfan Gwlyptir Llanelli yn cynnal tri llwybr tymhorol. Bydd pob tymor yn gweld map llwybr casgladwy newydd yn llawn darluniau llai adnabyddus o natur ddyfrllyd gan Quentin Blake i helpu i ysbrydoli ymwelwyr i weld rhyfeddod natur y gwlyptir mewn ffordd wahanol.

Bydd pob un o’r llwybrau, Gwanwyn/Haf, Hydref, a Gaeaf, yn amlygu’r natur anhygoel sy’n cyrraedd bob tymor, gan arddangos bywyd newydd, dŵr pefriog ac adar yn ymweld, gan helpu pawb i brofi byd natur mewn ffyrdd newydd, annisgwyl trwy waith Quentin Blake.

Bydd y llwybrau hyn yn rhedeg ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithgareddau celf a darlunio i ysbrydoli pob oed a gallu, gan helpu pawb i brofi byd natur mewn ffyrdd newydd, annisgwyl.

Ymhlith uchafbwyntiau’r gwanwyn a’r haf mae dolydd blodau gwyllt yn llawn lliw a gloÿnnod byw yn dawnsio; perffaith ar gyfer dychmygu eich hun fel un o gymeriadau diofal Quentin yn mwynhau byd natur, yn rhydd o ofidiau bywyd bob dydd.

Wrth sôn am y bartneriaeth dywedodd Quentin Blake: “Rwy’n falch iawn o gael rhannu fy narluniau gyda safleoedd WWT a’u hymwelwyr trwy brofiad Drawn to Water. Roedd y

prosiect hwn yn apelio ataf oherwydd mae gennyf ddiddordeb gydol oes mewn darlunio bywyd gwyllt y gwlyptir, yn enwedig adar.

“Ni allaf esbonio pam yn union ond efallai ei fod oherwydd fel ni, maen nhw ar ddwy goes ac mae ganddyn nhw ystumiau llawn mynegiant. Mae’r darluniau a welwch yn dod o fy archif personol fy hun, ac anaml y gwelwyd llawer ohonynt yn gyhoeddus o’r blaen.

“Trwy Drawn to Water rwy’n gobeithio y bydd gweld fy ngwaith celf mewn mannau lle mae’r creaduriaid hyn yn ffynnu yn caniatáu i gynulleidfaoedd newydd fwynhau bywyd gwyllt y gwlyptir cymaint â mi, efallai’n ysgogi ychydig o bobl i godi beiro, pensil neu hyd yn oed cwilsyn.”

Dywedodd Jessica Thompson, Rheolwr Marchnata WWT Llanelli:

“Mae darluniau Quentin Blake yn apelio at bobl o bob oed, ac mae ei gariad at natur gwlyptir yn disgleirio o’i gymeriadau byw.

“Pwy all wrthsefyll gwenu pan welant bersonoliaethau mawr ei greadigaethau digamsyniol?

“Mae’r llwybrau hardd hyn yn gwahodd ein hymwelwyr i ymgolli yn y gwlyptiroedd ac archwilio rhannau newydd o’r warchodfa natur fel erioed o’r blaen.

“Dilynwch gymeriadau diofal Quentin sy’n caru natur a gwnewch eich cysylltiadau ystyrlon eich hun â bywyd gwyllt y gwlyptir ym mhob tymor. Waeth beth fo’ch oedran, fe welwch rywbeth arbennig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle