- Gronfa ar gael i helpu grwpiau nid-er-elw sydd am gyfoethogi eu cymunedau.
- Bydd grantiau o £5,000 ar gael
Mae Dŵr Cymru wedi lansio gronfa gymunedol newydd i gynorthwyo grwpiau lleol sydd am wella eu cymunedau. Mae hyn yn rhan o fenter £100,000 i gynorthwyo fenter cymunedol ar draws Cymru a Sir Henffordd.
Bydd y gronfa, sy’n agored i grwpiau nid-er-elw, yn agor tair gwaith y flwyddyn, a bydd yna gyfle i grwpiau dderbyn gwerth hyd at £5,000 o gyllid.
Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer grantiau’r gronfa gymunedol ddangos sut y bydd eu prosiectau o fudd i’r gymuned, a sut maen nhw’n gyson â gwerthoedd Dŵr Cymru. Bydd y gronfa’n rhoi cyfle i grwpiau gyfoethogi’r ardal lle maen nhw’n byw, gan wella’r amgylchedd neu gynorthwyo addysg.
Mae Dŵr Cymru eisoes wedi cael effaith sylweddol trwy’r gronfa gymunedol ers 2017. Yn 2022, cafodd dros 252 o elusennau a sefydliadau o bob rhan o Gymru a Sir Henffordd wedi diogelu cyllid trwy Gronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw.
Cafodd Treginnis Isaf – Ffermydd ar gyfer Plant y Ddinas gwerth £500 trwy’r gronfa gymunedol ac meddai “Diolch i gefnogaeth Dwr Cymru, gyda’r cefnogaeth hyn a grwpiau eraill, rydym wedi disodli ein cwt ieir ar ôl iddo gael ei ddinistrio yn ystod Storm Eunice ym mis Chwefror 2022”.
Mae’r grŵp bendigedig yma yn gweithio i sicrhau bod plant sy’n ymweld â’r safle yn cael y cyfle gorau i wella eu lles, eu hiechyd meddwl, a’u hyder yn ystod eu harhosiad ac i sicrhau bod plant yn mynd adref gyda mwy o hunan-barch a’r offer i ymdopi â’r anawsterau maen nhw’n ei wynebu.
Mae’r gronfa newydd yma’n rhan o fenter dibenion cymdeithasol £100,000 ehangach y bydd Dŵr Cymru’n parhau i’w weithredu yn 2023. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid cyfatebol i gyd-fynd ag ymdrechion cydweithwyr i godi arian, cydweithio’n agos ag elusennau dethol mwy fel Wateraid, a chynorthwyo’r cymunedau y mae eu gwaith buddsoddi’n effeithio arnynt.
Dywedodd Claire Roberts, y Pennaeth Cysylltu Cymunedau: “Lansiwyd ein cronfa gymunedol yn 2017, a hyd yn hyn wedi cyfrannu cannoedd o filoedd o bunnoedd i achosion da prosiectau lleol. Rydyn ni’n falch o allu parhau i gynorthwyo ein cwsmeriaid a chymunedau trwy helpu’r grwpiau yma sy’n gweithio’n ddiflino i wella eu cymunedau.
Wrth galon ein cenhadaeth mae’r ymrwymiad i gynorthwyo’r cwsmeriaid a wasanaethwn trwy ariannu prosiectau sy’n gwneud gwaith pwysig, fel y gallant wneud gwahaniaeth go iawn yn eu hardal leol.”
Am fanylon, ewch i www.dwrcymru.com/cronfagymunedol
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle