Mae gwersi o dan y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn codi ymwybyddiaeth gymunedol o ganser y coluddyn

0
309

Mae partneriaeth unigryw rhwng athrawon yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Moondance Cancer Initiative yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn.

Daeth y Cynllun Canser Moondance I Ysgolion[1] o sgwrs rhwng Huw Cripps, Pennaeth yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, a’r Athro Jared Torkington, Cyfarwyddwr Clinigol yn Moondance ac Ymgynghorydd Colon a Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, oedd yn gymdogion pan oedd Moondance yn dewis prosiectau arweiniol ar gyfer eu Rhaglen Canser y Coluddyn.

Gwelodd y bartneriaeth blant ysgol yn profi addysgu rhyngweithiol a sesiynau ymarferol â chleifion a chlinigwyr, gan gynnwys ymweld â’r ganolfan hyfforddi ac addysg yn Ysbyty Prifysgol Cymru a gwylio fideos wedi’u ffrydio’n fyw o lawdriniaeth canser y coluddyn. Creodd y plant hefyd fideo am bwysigrwydd pobl gymwys yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio genedlaethol i ganser y coluddyn, a ddangoswyd ganddynt gyntaf mewn digwyddiad yn yr ysgol. Uchafbwynt diweddar fu digwyddiad digidol lle roedd disgyblion yn gallu gwrando ar weithwyr addysg ac iechyd proffesiynol ac archwilio’r cyfleoedd gyrfaoedd mae’r ddau sector yn eu cynnig.

Mae’r effaith ar ymgysylltu â disgyblion wedi bod yn amlwg. Dywed yr athrawes a Chydlynydd y prosiect yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, Marie Sidoli “Mae disgyblion yn gweld y ‘pam’ o ddysgu pan fyddant yn gweithio ag ystadegau iechyd go iawn megis y rheini ar gyfer canser y coluddyn ac maen nhw’n cyfranogi’n drwm.”

Ers i’r prosiect lansio mae ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn ymhlith y cymunedau ysgol wedi codi, â chynnydd o 45% mewn faint o bobl allai adnabod symptomau canser y coluddyn. Mae ardal leol Rhondda Cynon Taf lle darparodd chwech o ysgolion y rhaglen yn 2022 hefyd wedi gweld cynnydd o 115% mewn ceisiadau am gitiau profion sgrinio coluddyn y GIG am ddim, ar gael i bobl rhwng 55 a 74 oed.

Medi diwethaf, dechreuodd y Cwricwlwm Newydd i Gymru gael ei ddysgu mewn ysgolion fel rhan o’r diwygiad mwyaf i addysg Cymru mewn cenhedlaeth. Mae cyd-destun dilys prosiect Moondance yn dod ag addysgu byd go iawn i mewn i’r ystafell ddosbarth ac mae’n cyfrannu at y nod cenedlaethol o ddatblygu dinasyddion iach, hyderus a gwybodus

Mae’r prosiect yn cadw gwerthoedd Cwricwlwm Cymru wrth ei galon, gan ganolbwyntio dysgu o fewn chwe phrif Faes o Ddysgu a Phrofiad. Mae gwersi wedi cynnwys Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd a Llesiant, ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu nid yn unig i addysgu dysgwyr am ganser, triniaeth a’r cysylltiad ag ymddygiadau iach, ond hefyd i ddylanwadu ar newid ymddygiad tymor hir o fewn y genhedlaeth iau.

Dywedodd yr Athro Jared Torkington: “Canser y Coluddyn yw’r pedwerydd mwyaf cyffredin yng Nghymru a’r ail laddwr mwyaf gan ganser yng Nghymru. Pob blwyddyn mae mwy na 2,200 o bobl yn cael eu diagnosio â’r afiechyd ac yn anffodus mae dros 900 yn marw ond gellir trin a gwella canser y coluddyn os caiff ei ddiagnosio’n gynnar. Dyma pam y cawsom y syniad, fel rhan o’n Rhaglen Canser y Coluddyn yng Moondance Cancer Initiative i ddatblygu modiwl addysg rhwng cenedlaethau, gan roi cyfle inni addysgu pobl ifanc am ganser a’u hannog hefyd i dderbyn y negeseuon pwysig am ddychwelyd eich cit sgrinio pan fyddwch yn ei dderbyn a’r symptomau i gadw golwg amdanynt.

“Roeddem yn nerfus am ddod i mewn i ysgolion ac nid oeddem yn siwr a oedd pobl ifanc yn barod am y sgwrs hon, ond fe wnaethom ganfod eu bod yn hollol barod. Mae’n berthnasol iddynt, eu teuluoedd a’u cymunedau ac mae hynny wedi arwain at ymgysylltu gwirioneddol a gweithredu gydag ysagolion eraill ledled Cymru sy’n gwneud yr un peth yn awr.”

Cafodd y bartneriaeth wreiddiol ei ffurfio yn 2019 ag Ysgol Uwchradd Pontypridd. Rhwng Mai a Gorffennaf 2019, rhedodd yr ysgol arweiniol raglen beilot â grŵp o 30 o ddisgyblion blwyddyn 8. Y flwyddyn ddilynol, cafodd ei darparu i garfan gyfan blwyddyn 7 yn yr ysgol. Fe wnaethant fabwysiadu egwyddorion y Cwricwlwm Newydd i Gymru wrth ddatblygu’r adnoddau addysgol, gan eu gwneud yn un o’r ysgolion cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r fframwaith newydd. Yn 2021, symudodd y rhaglen i mewn i’w hail gam, gan ffurfio rhwydwaith o chwech ysgol uwchradd ar draws Rhondda Cynon Taf i ddarparu’r rhaglen ddysgu i’w disgyblion blwyddyn 7. Ar gyfer 2023 mae’r nod wedi bod i rannu’r profiadau ag ysgolion eraill a rhanbarthau byrddau iechyd ledled Cymru â’r bwriad y gall y rhaglen ddysgu hon gael ei haddasu i gyd-destunau eraill.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith sy’n sicrhau cysondeb a dysgu craidd ledled Cymru, ond mae ysgolion yn dylunio eu cwricwlwm eu hunain wedi’i ffurfio gan eu dysgwyr, cymunedau a chyd-destunau lleol – sy’n ganolog i Gynllun Ysgolion Moondance. Dywedodd Huw Cripps, Pennaeth yn Ysgol Uwchradd Pontypridd “Oherwydd y cydweithio hwn, roeddem yn gwybod ein bod yn defnyddio’r geiriau cywir yn ein rhaglen ddysgu. Roedd yr athrawon 100% yn hyderus yn yr hyn roeddent yn ei addysgu; y derminoleg, roedd yr eirfa yn uniongyrchol o’r bwrdd iechyd, roedd hyder llwyr gan y bwrdd iechyd mewn sut yr aethom o gwmpas hyn.”

Dywedodd Sara Moseley, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative: “Mae wedi bod yn wych i wylio’r Gwaith yn tyfu o’r un ysgol i’r 24 ysgol uwchradd ledled Cymru fydd yn addysgu’r modiwl y flwyddyn academaidd hon. Mae ein Rhaglen Canser y Coluddyn yn caniatáu inni brofi syniadau ac ymagweddau newydd, mae’r prosiect ysgolion yn enghraifft wych o ble rydym yn gallu dylanwadu ar newid ymddygiad tymor hir a lleihau marwolaethau diangen o’r afiechyd hwn. Rydym yn gobeithio gweld rhagor o ysgolion yn dewis darparu’r modiwl ardderchog hwn ac wrth wneud hynny yn arfogi pobl ifanc â’r wybodaeth i ddod yn ddinasyddion iach, hyderus a gwybodus.”

[1] Mae’r prosiect wedi cael ei gyllido gan Moondance Cancer Initiative, cwmni nid-er-elw a gafodd ei sefydlu yn 2019 I drawsnewid canlyniadau canser yng Nghymru.

Mae ffilm fer am y prosiect ar gael yma: https://youtu.be/P7NP-yIfUrI


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle