Wrth i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ddathlu ei phen-blwydd yn bump oed, mae galwad wedi cael ei gwneud am unigolion sy’n frwd dros y Parc Cenedlaethol i helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Sefydlwyd yr elusen yn 2018, ac ers hynny mae wedi gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd, cyrff cyllido a rhoddwyr corfforaethol i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sydd wedi’u cynllunio i fod o fudd i’r Parc a’i bobl. Mae’r rhain yn cynnwys gwella safleoedd ar gyfer natur, helpu ysgolion a phlant cyn oed ysgol i gael profiadau dysgu yn yr awyr agored a chefnogi prosiectau cymunedol sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn cyflawni o ran cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd.
Fodd bynnag, wrth i’r Ymddiriedolaeth edrych tuag at y dyfodol a’r holl heriau y mae’r unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol yn y DU yn eu hwynebu, mae mwy o angen nag erioed am unigolion brwdfrydig sy’n barod i helpu.
Mae cyfleoedd ar gael nawr i Wirfoddolwyr Codi Arian a Chymunedol, a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Ymddiriedolaeth a’i gwaith mewn cymunedau lleol, helpu i godi arian, cynrychioli’r elusen mewn digwyddiadau lleol a darparu cymorth ymarferol arall pan fo angen.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar a chroesawgar, gyda’r hyder i siarad â’r cyhoedd, ar sail un i un ac mewn grwpiau mawr.”
Bydd y gweithgareddau’n amrywio o gynrychioli’r Ymddiriedolaeth mewn digwyddiadau lleol i helpu i gasglu arian mewn bwcedi, mynychu digwyddiadau pan fydd siec yn cael ei chyflwyno, rhoi cyflwyniadau byr ar waith yr elusen a helpu gyda dyletswyddau gweinyddol. Fodd bynnag, dim ond dyletswyddau neu weithgareddau y byddan nhw’n teimlo’n gyfforddus yn eu gwneud y disgwylir i wirfoddolwyr eu cyflawni.
Ychwanegodd Katie Macro: “Mae ymchwil wedi dangos bod gwirfoddoli yn gallu bod yr un mor fuddiol mewn sawl ffordd i unigolion ag y mae i’r achos maen nhw’n ei gefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys cwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, datblygu eich CV a rhoi hwb i’ch hunan-barch.
“Bydd pawb yn cael hyfforddiant a dillad brand yr Ymddiriedolaeth, bydd treuliau’n cael eu had-dalu a bydd geirdaon yn cael eu darparu yn y dyfodol. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod gwirfoddolwyr yn ddibynadwy ac yn onest, ac yn ddigon hyblyg i gael eu galw pan fo angen.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, cysylltwch â support@pembrokeshirecoasttrust.wales.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a’i gwaith ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle