Cysylltiad TikTok yn hwb i fusnes gwledig

0
326

Mae siop hen bethau annibynnol poblogaidd ym Mydroilyn ger Aberaeron, Ceredigion wedi troi at gyfryngau cymdeithasol i’w helpu i wella gwasanaeth cwsmeriaid ar ôl cael band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym Openreach.

Mae’r gŵr a gwraig Jonathon ac Yvonne Holder wedi rhedeg ‘Welsh Vernacular Antiques’ yn y pentref gwledig am bron 25 blynedd. 

Maent yn cynnal y busnes arlein o’u cartref ym Mydroilyn tra bod y siop – sy’n cynnwys y casgliad mwyaf yn y wlad o hen bethau Cymreig a dodrefn gwlad o safon – ym mhentref Llanon. Maent yn cynnal y busnes arlein o’u cartref ym Mydroilyn tra bod y siop – sy’n cynnwys y casgliad mwyaf yn y wlad o hen bethau Cymreig a dodrefn gwlad o safon – ym mhentref Llanon. 

Oherwydd eu lleoliad gwledig, tan yn ddiweddar trafodwyd y rhan helaeth o’u busnes ar eu gwefan. Roedd cysylltiad band eang araf y pentref yn golygu bod llwytho delweddau dodrefn ar y wefan yn cymryd amser sylweddol ac roedd llwytho fideos hirach na 5 eiliad yn amhosibl.

Ond newidiodd y sefyllfa pan ddaeth band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym Openreach i’r pentref. Esboniodd Jonathon:

“Fel busnes gwledig sy’n gwerthu dodrefn Cymreig o safon byddwn yn denu cwsmeriaid o bob rhan o’r byd.”

“Oherwydd y lleoliad, ni fydd llawer iawn o bobl yn ymweld â’r siop o gymharu â chystadleuwyr yn Llundain, felly byddwn yn dibynnu’n helaeth ar gynnal enw da’r busnes a’n presenoldeb arlein.

“Mae rhai eitemau’n gallu costio hyd at £20,000, felly bydd ein cwsmeriaid angen cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn gwneud y penderfyniad iawn. Bydd hynny’n golygu darparu lluniau safon uchel, clipiau fideo a ffrydio byw – oedd yn anodd os nad ym amhosibl heb fand eang fffeibr cyflawn.”

“Ers derbyn y gwasanaeth newydd, rydym wedi gweld newid cyflym i’n trafodion busnes, gyda’r rhan helaeth dros ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach nag yn y siop neu ar y wefan.

“Ar Instagram, Twitter, Facebook a TikTok byddwn yn llwytho cynnwys newydd bob dydd ar gyfer ein 20,000 dilynydd. Mae’r cysylltedd newydd yn ein galluogi i gysylltu’n syth â’n cwsmeriaid – sy’n hanfodol ym maes e-fasnach.

“Rhaid cael band eang cyflym a dibynadwy er mwyn cynnal busnes llwyddiannus mewn ardal wledig.”

Erbyn hyn mae bron 40% o bobl a busnesau ar draws sir Geredigion yn gallu uwchraddio i gael band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym. Er bod bron hanner y cartrefi a busnesau wedi uwchraddio, mae miloedd yn dal heb fachu ar gyfleoedd ein gwasanaethau band eang cyflym a dibyandwy.

Yn dilyn buddsoddiad gwerth £4 miliwn yn lleol, mae peirianwyr Openreach wedi bod yn brysur yn lledu’r rhwydwaith i ddarparu gwasanaethau tra-chyflym hyd at 1 gigabeit yr eiliad (Gbps) ar draws y sir.

Mae’r cwmni yn annog pobl yn byw mewn dinasoedd ac ardaloedd cyfagos i ddysgu mwy am fand eang cyflymach – oherwydd mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod rhwydwaith ffeibr cyflawn Openreach – a ddefnyddir gan gwmnïau fel BT, Sky, TalkTalk, Vodafone a Zen – yn awr ar gael i dros 14,000 adeilad ond nid yw llai na hanner ohonynt wedi archebu’r gwasanaeth.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth cyflymach, mae band eang ffeibr cyflym yn fwy dibynadwy a chadarn, gyda llai o namau, yn cynnig cyflymder cyson a chynhwysedd digonol er defnyddio sawl dyfais ar yr un pryd.  

Ar draws y wlad, mae peirianwyr Openreach wedi bod yn gweithio’n galed er galluogi dros 660,000 cartref a busnes i osod archeb am y dechnoleg newydd.

Dywedodd Martin Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru Openreach: “Yn ôl ymchwil, bydd y rhwydwaith newydd yn rhoi mantais gystadleuol i fusnesau ac yn darparu gwasanaethau hir oes ar gyfer teuluoedd a gweithwyr cartref, dim ots beth byddant y wynebu yn y dyfodol.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi ar draws Ceredigion a gweddill y wlad er mwyn cyflenwi gwasanaeth gwych fydd yn helpu cymunedau i ffynnu, cefnogi gweithwyr cartref a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid.

“Bydd band eang 1 gigabeit yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl ac yn dda i’r economi, ond ni fydd gwasanaeth pobl yn uwchraddio yn otomatig. Bydd angen i bobl osod archeb gyda’r cwmni gwasanaeth o’u dewis ac yna byddwn ni’n gwneud y gweddill. Mae ein rhwydwaith yn cynnig amrywiaeth eang o gwmnïau gwasanaeth sy’n darparu llawer o ddewis ar gyfer cwsmeriaid a chyfle i gael bargen.”

Mae pecynnau cwmnïau band eang ar gael am brisiau cystadleuol, sy’n golygu na fydd o anghenraid angen talu mwy bob mis am wasanaeth llawer gwell.

Ar ôl gosod archeb gyda chwmni gwasanaeth, bydd peiriannydd Openreach yn ymweld ar ddiwrnod o’ch dewis. Bydd yn rhedeg cebl o dan y ddaear neu o bolyn cyfagos i flwch cyswllt bach ar wal allanol y cartref. Yna bydd yn gosod cebl llai i gysylltu ag uned fewnol – ger soced trydan – a chyn gadael, yn profi’r cysylltiad er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn.

Mae Openreach wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi i ddarparu band eang ffeibr cyflawn ar gyfer y rhan helaeth o gartrefi a busnesau yn y wlad. Rhan o gynlluniau’r cwmni i gyrraedd 25 miliwn cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig. Dyma fideo byr yn esbonio beth yw technoleg ffeibr ac mae manylion pellach am ein rhaglen adeiladu yma.

Gyda gweithlu o ddeutu 2,300 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cyflogi’r tîm mwyaf o beirianwyr a gweithwyr cysylltiedig yn y wlad.

Mae adroddiad diweddar gan Cebr (Centre for Economics & Business Research) wedi tanlinellu’r buddion economaidd o gysylltu pawb yng Nghymru â rhwydwaith ffeibr cyflawn. Amcangyfrifir byddai’n creu hwb gwerth £2 biliwn i economi’r wlad. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle