Lansio hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal plant a gwaith chwarae

0
285
Julie Morgan, Deputy Minister for Social Services

Mae darpariaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd, o safon uchel, bellach ar gael am ddim i ymarferwyr sy’n darparu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin ac sy’n gweithio gyda babis a phlant ifanc, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth.

O ystyried pwysigrwydd gofal plant a gwaith chwarae o ran cefnogi datblygiad plant ac addysg gynnar a’r economi ehangach, mae’r adnoddau wedi’u datblygu fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Mae dysgu proffesiynol gwrth-hiliaeth ar gyfer gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn adeiladu ar lwyddiant y ddarpariaeth debyg ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg yn 2022.

Ariannwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru, drwy fuddsoddiad parhaus yn y prosiect DARPL i gefnogi gwaith partneriaeth gyda’r gwasanaeth CWLWM.

Cafodd yr adnoddau gwrth-hiliaeth ar gyfer gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar eu lansio’n swyddogol mewn digwyddiad yn Llanbedr, ger Harlech.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn cynnig amgylchedd cynhwysol, croesawgar a hwyliog lle gall plant dyfu a datblygu.

“Rydyn ni eisiau i’n gweithluoedd blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae ddeall ac adlewyrchu’r holl gymunedau amrywiol y mae ein plant yn byw ynddyn nhw.

“Bydd y gyfres dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd hon yn helpu i ehangu’r ddealltwriaeth honno gan wneud yn siŵr bod pob plentyn yn teimlo bod croeso iddo.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Rydyn ni’n gwybod bod cael esiamplau da yn rhan annatod o sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rwy’n falch ein bod yn datblygu’r gwaith pwysig y mae DARPL yn ei wneud er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.” 

Dywedodd Cyfarwyddwr DARPL, Chantelle Haughton:

 “Dan arweiniad y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae angen cymryd camau sylweddol er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol, gan fanteisio ar gyfleoedd gyda’n gilydd i gefnogi a herio arweinwyr ym meysydd gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

“Mae dysgu proffesiynol ac ail-feddwl ein dulliau strategol angen bod yn flaenoriaethau mewn arweinyddiaeth wrth-hiliol foesegol. Mae DARPL yn darparu cyfle a disgwyliad i alluogi tegwch, cynhwysiant dilys a chynefin ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

“Ymunwch â ni i sicrhau effaith genedlaethol drwy gymryd rhan yng nghyfres gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar DARPL, a thrwy fynd i’n digwyddiadau, ymgysylltu â’n hadnoddau a rhannu enghreifftiau o’ch gwaith arwain eich hun drwy gyflwyniadau blog. Mae DARPL i bawb sy’n ymwneud â gofal plant, gwaith chwarae ac addysg yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle