“Maethu yw’r mwyaf buddiol o bell ffordd o’r swyddi rydyn ni’n eu gwneud oherwydd bod gennym ni berson ifanc hyfryd sy’n gweddu’n dda iawn i’n teulu ni ac rydyn ni’n cael llawer o anturiaethau gyda hi.” – Jo Johnstone
Bob dydd yng Nghymru mae pump o blant angen gofal maeth. Yn Sir Gaerfyrddin mae dros 190 o blant* yng ngofal yr awdurdod lleol ond dim ond tua 83 o ofalwyr maeth sy’n gallu cynnig y cartrefi sefydlog a chariadus y maent yn eu haeddu; boed hynny am ychydig ddyddiau, misoedd neu sawl blwyddyn.
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni sydd rhwng 15 a 28 Mai, mae’r Rhwydwaith Maethu, sef prif elusen maethu’r DU, a gwasanaethau maethu’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gofyn i’r gymuned fusnes ehangach i helpu ac i wneud pethau’n haws i’w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl Y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall. Mae hyn yn bosibl oherwydd bod eu cyflogwyr yn darparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd o’r gwaith i weithwyr sy’n ofalwyr maeth posibl ac sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio. Gall gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, hefyd gael amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, mynychu paneli, setlo plentyn newydd i’w cartref ac i ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi. Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad gweithiwr i fod yn ofalwr maeth.
Roedd Jo Johnstone, Pennaeth Bioleg mewn Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn Llanelli, a’i gwraig Emma, sydd hefyd yn athrawes gymwysedig a chwnselydd, wedi bod eisiau maethu am gyfnod hir a dechreuodd y ddwy y broses tua thair blynedd yn ôl, fodd bynnag, oherwydd y pandemig, dim ond ychydig dros flwyddyn yn ôl dechreuodd y ddwy faethu. Dywedodd Jo: “Mae ein taith faethu yn newydd i ni ac felly rydyn ni’n dal i jyglo maethu ochr yn ochr â gweithio bron a bod yn llawn amser. Maethu yw’r mwyaf buddiol o bell ffordd o’r swyddi rydyn ni’n eu gwneud oherwydd bod gennym ni berson ifanc hyfryd sy’n gweddu’n dda iawn i’n teulu ni ac rydyn ni’n cael llawer o anturiaethau gyda hi. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi ein cefnogi ni gyda hyn, er enghraifft rhoi seibiant pan fydd angen seibiant ac ariannu rhai gweithgareddau ychwanegol. Byddem yn bendant yn annog eraill i wneud cais i fod yn ofalwyr – mae’r broses yn rhoi digon o amser i chi drafod posibiliadau a gweithio drwy rwystrau posibl. Os ydych yn teimlo nad oes gennych ddigon o hyder, mae gofalwyr maeth profiadol sy’n gweithredu fel mentoriaid a llawer o gyfleoedd hyfforddi.”
Mae Beth Handyside, sy’n fentor cymheiriaid i ofalwyr maeth eraill yn Sir Gaerfyrddin, wedi gweithio ym maes lles addysg a chyda phlant agored i niwed. Dechreuodd hi a’i gŵr James, sy’n gweithio ym maes gweithgynhyrchu, faethu yn 2018. Meddai Beth: “Roedd maethu yn rhywbeth roedd y ddau ohonom eisiau ei wneud ers peth amser ac fe lwyddon ni i fwrw ymlaen yn 2017. Does gennym ni ddim plant ein hunain a chyda chymaint i’w roi, egni, amser, teulu a buddsoddiad, roedden ni’n teimlo y gallen ni gynnig cartref hirdymor yn ogystal â chyfle i helpu person ifanc i dyfu. Mae’n anodd ar adegau ond yn fwy na dim mae’n gyfle i frodio ein profiadau ar dapestri person ifanc. Mae maethu yn daith bywyd mor gyfoethog ac rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i’w wneud.”
Mae Marie a Mal Owen wedi bod yn maethu ers 6 mlynedd. Meddai Marie, sydd hefyd yn fentor cymheiriaid: ‘O edrych yn ôl, rydym yn difaru peidio â bod yn ofalwyr maeth yn gynt, oherwydd gallwch weithio tra’n maethu. Bues i’n gweithio fel rheolwr cynorthwyol ar gwmni gofal i bobl oedrannus ar y pryd, a phenderfynais ddilyn fy mreuddwyd, gan ofalu am blant agored i niwed mewn angen.
“Rydyn ni wedi bod yn maethu nawr ers 6 mlynedd, a bydden ni byth yn edrych yn ôl. Yr hyn sydd mor hyfryd yw gweld y plant hyn yn ffynnu, gan wybod eu bod yn ddiogel ac yn cael ymdeimlad o berthyn. Pan fyddant yn cael gofal ac mae pobl yn gwrando arnynt, mae eu hyder yn tyfu. Rydyn ni fel teulu yn caru’r plant fel ein rhai ni, maen nhw’n cael eu trin yr un peth. Maen nhw wedi dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd. Mae ychydig o anawsterau wedi bod ar hyd y ffordd ond rydych chi’n dangos iddyn nhw eich bod chi wastad yna iddyn nhw, mae gennych chi gefnogaeth gan eich gweithwyr cymdeithasol goruchwylio ac mae’r hyfforddiant yn dda iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r gwaith y mae gofalwyr maeth ein sir yn ei wneud yn amhrisiadwy, gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn eu cymuned leol.
“Fel awdurdod lleol, gallwn gefnogi gofalwyr maeth trwy ddarparu popeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu ar eich taith i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant lleol, o hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth i lwfansau ariannol.”
Bydd Tîm Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn mynd o amgylch y sir yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, felly os ydych am ddarganfod mwy am y gwahanol fathau o faethu sydd ar gael a sut y gallech helpu plant a phobl ifanc yn Sir Gâr, galwch draw am sgwrs. I gael gwybod ble fyddan nhw, ewch i:
https://www.facebook.com/maethusirgar ffoniwch 0800 800 093 3699 neu ewch i https://sirgar.maethucymru.llyw.cymru/
I ddod yn gyflogwyr sy’n ystyriol o faethu, cysylltwch â’r Rhwydwaith Maethu fosteringfriendly@fostering.net i gael gwybod mwy.
* Gall ffigyrau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal amrywio
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle