Cyhoeddi strategaeth dementia ranbarthol

0
274
Llun: Daeth partneriaid rhanbarthol i ddangosiad ffilm a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i ddathlu Wythnos Gweithredu Dementia. Yn y llun o'r chwith i'r dde: Clare Venables, Marie Curie Sophie Buckley, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Charlotte Duhig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Monica Bason-Flaquer, Cyngor Sir Caerfyrddin Judith Hardisty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda/Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gemma Emile, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Cherry Evans, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Angela Dowson, Marie Curie

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi strategaeth dementia ranbarthol 5 mlynedd, sydd wedi’i datblygu drwy ymgysylltu â phobl â dementia, gofalwyr, a staff iechyd a gofal cymdeithasol ledled y rhanbarth.

Mae’r strategaeth yn cefnogi’r gwaith y mae’r Bwrdd Partneriaeth eisoes yn ei wneud, yn unol â Chynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, gan weithio tuag at wella gofal dementia yng Nghymru a’i gwneud yn wlad sy’n cefnogi dementia. Mae pob aelod o’r bartneriaeth wedi cytuno ar y strategaeth bellach.

Mae dementia yn fater i bawb. Ein gweledigaeth ar gyfer Gorllewin Cymru yw cefnogi pob person â dementia i fyw’n dda ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae’r strategaeth yn amlinellu Llwybr Llesiant Dementia Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, sy’n sicrhau bod pobl â dementia a’u gofalwyr wrth ei wraidd.

Mae’r strategaeth yn cydnabod y gall iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’i gydgysylltu’n dda gryfhau perthynas pobl â’i gilydd. Mae hefyd yn darparu cymorth mewn cymunedau lleol y gallwn ni fanteisio arno i fyw’n dda a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i ni.

Drwy ymgysylltu ledled y rhanbarth, nodwyd y themâu allweddol canlynol fel meysydd ffocws yn y strategaeth:

  • Llesiant, lleihau risg, oedi dechreuad, codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
  • Cydnabod, nodi, cefnogi a hyfforddi
  • Asesu a diagnosis
  • Byw’n iach gyda dementia
  • Mwy o gymorth pan fydd ei angen arnoch

Mae’r Bwrdd Partneriaeth eisoes wedi dechrau darparu gwasanaethau yn wahanol, er mwyn cyflawni ei weledigaeth. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys lansio Gwasanaeth Nyrsys Admiral yn 2021, sef partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dementia UK, sy’n rhoi sylw i ddarparu gofal dementia sy’n canolbwyntio ar berthynas i alluogi teuluoedd, gofalwyr a phobl â dementia i wella eu llesiant gymaint ag y bo modd.

Enghraifft arall o’r fath yw prosiect Cymunedau sy’n Cefnogi Dementia yn Sir Benfro, a ddarperir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Enillodd y prosiect wobr genedlaethol yn 2022 am ei waith yn helpu pobl â dementia i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl, teimlo’n rhan o’u cymuned, teimlo’n hyderus, eu bod yn cael eu deall a’u parchu, ac i barhau i fwynhau eu hobïau a’u diddordebau.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er mwyn gwella bywydau pobl mae dementia yn effeithio arnynt, mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydym yn trefnu ac yn ariannu gofal dementia, gan ddysgu o ffyrdd newydd a mwy effeithiol o wneud pethau a buddsoddi ynddynt. Mae Strategaeth Dementia Gorllewin Cymru yn gam nesaf pwysig o ran cydweithio rhanbarthol i gyflawni’r uchelgeisiau hyn.

“Mae’r strategaeth wedi’i llunio gan bobl â dementia a’u gofalwyr, ac mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i bobl mae dementia yn effeithio arnynt gymryd rhan weithredol mewn datblygu a chyflawni’r strategaeth, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau i adlewyrchu anghenion, profiadau, a blaenoriaethau ein cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n croesawu cyhoeddi’r strategaeth dementia ranbarthol a’r cydweithio rhwng yr holl bartneriaid i gefnogi pobl â dementia ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr.”

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes. Dywedodd:  “Mae dementia yn dod yn fater mwyfwy pwysig i gymdeithas ac mae’n braf iawn gweld pawb yn cydweithio yn rhanbarthol i helpu. Bydd llawer o’r mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i wneud bywyd yn haws i’r rhai â dementia yn gwella cymdeithas i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at weld y strategaeth newydd yn cael ei rhoi ar waith ac yn gwella bywydau.”

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, Cyngor Sir Penfro: “Rwy’n croesawu’r Strategaeth Dementia Ranbarthol a’i ffocws ar helpu pobl â dementia i fyw’n dda ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae’r prosiect Cymunedau sy’n Cefnogi Dementia yn Sir Benfro yn enghraifft wych o sut y gellir helpu pobl â dementia i sicrhau bywyd o ansawdd uchel yn eu cymunedau ac mae’n braf bod Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro wedi derbyn gwobr genedlaethol i gydnabod ei gwaith gyda’r prosiect hwn.”

Mae partneriaid Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gwasanaethau’r trydydd sector, cynghorau gwirfoddol cymunedol ac, yn bwysig ddigon, pobl â dementia, yr oedd eu lleisiau wedi llunio’r strategaeth hon ac a fydd yn elwa fwyaf o’i rhoi ar waith yn llwyddiannus.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle