10 diwrnod i fynd tan Eisteddfod yr Urdd 2023

0
261

O gofio mai dim ond 10 diwrnod sydd i fynd nes y bydd Eisteddfod yr Urdd yn dechrau yn Llanymddyfri, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa pawb i gael eu tocynnau mewn da bryd, gan y bydd prisiau tocynnau yn cynyddu ar 29 Mai.

Ewch i wefan yr Urdd i brynu eich tocynnau.

Eleni bydd mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd. 

Mae dwy ffordd y gall teuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim:

  • Aelodaeth £1 yr Urdd – bydd e-bost yn cael ei anfon at deuluoedd sy’n derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd i nodi sut i hawlio’u tocyn. Bydd yr e-bost yn cynnwys cod disgownt unigryw y gellir ond ei ddefnyddio unwaith gyda’u cyfrif.
  • Ffurflen gais – gellir cwblhau ffurflen gais ar wefan yr Urdd i hawlio tocynnau incwm isel. Cyn hawlio tocynnau, bydd angen i’r person neu’r teulu gadarnhau eu bod yn gymwys drwy ddefnyddio’r meini prawf a restrir. Bydd gwybodaeth lawn a meini prawf i weld pwy all wneud cais am docynnau incwm isel ar gael ar wefan yr Urdd.

Prosiect 23 – Chwilio’r Chwedl – Perfformiad Agoriadol Eisteddfod yr Urdd

Ddydd Sul, Mai 28 am 01:30pm, bydd dros 950 o blant o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn dod at ei gilydd i berfformio sioe Stryd-Theatr, Chwilio’r Chwedl, i ddathlu hanes a diwylliant Sir Gaerfyrddin ar draws sawl rhan o’r maes.

Cliciwch yma i archebu eich tocynnau

Mae Prosiect 23 – Chwilio’r Chwedl yn gynllun blwyddyn gyfan, gyda’i uchafbwynt i’w weld ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae digwyddiadau ar hyd a lled y Sir wedi eu cynnal gan ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn cyfrannu drwy waith celf, dawns, cerddoriaeth, ffilm ac actio gydag ymarferwyr proffesiynol.

Ceir pinacl Chwilio’r Chwedl ar Faes yr Eisteddfod ar ddydd Sul, 28 Mai am 01:30pm, wrth i gannoedd o blant a phobl ifanc greu perfformiad cyffrous ac arloesol a fydd yn glytwaith episodig o chwedlau a storïau Sir Gâr a hynny mewn arddull theatr promenâd gyda’r gynulleidfa yn symud o amgylch i chwilio am y chwedlau gwahanol ar Faes yr Eisteddfod yn Llanymddyfri.

Gofynnwyd i bobl ifanc o’r Sir sydd wedi cystadlu yn yr Urdd dros y blynyddoedd ac i awduron o’r Sir i ysgrifennu sgriptiau nifer o’r chwedlau a rhoi gogwydd newydd iddyn nhw.  Mae’r caneuon wedi eu cyfansoddi yn arbennig gan Steffan Rhys, Gwilym Williams, Ieuan Wyn, Richard Vaughan a geiriau gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, Catrin Gwyn, Megan Davies a disgyblion Sir Gâr. Bu Izzy Rabey, Owain Gwynne, Anna ap Robert ac Osian Meilir yn creu gwaith rap, dawns a symud a Karen McRobbie, Mared Davies, Kate Glanville, Rhys Padarn a Karm Lloyd Roberts yn creu gwaith celf cwbl arbennig gyda nifer o’r ysgolion. Cafodd dros 150 o ddisgyblion o Unedau arbennig y sir greu cân am ‘Jac Tŷ Isha’ gyda Neil Rosser a’r Band ‘Pwdin Reis’ a chael y cyfle i recordio’r cyfan yng Nghanolfan S4C yr Egin. 

Fel rhan o Brosiect 23 – Chwilio’r Chwedl mae Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid y Cyngor wedi bod yn cynorthwyo’r prosiect drwy adeiladu propiau ar gyfer ysgolion a’u chwedlau, a hefyd meinciau ar gyfer y cyhoedd ar y maes.  Mae plant sy’n gweithio gyda’r gwasanaeth fel ran o’i waith adferol i’r gymuned, wedi bod yn mesur, adeiladu a pheintio’r meinciau gyda dyluniadau o arwyr y byd pêl-droed a rygbi Cymreig.  Mae’r artist Karen McRobbie wedi cydweithio â staff ac wedi bod yn helpu’r plant gyda’r gwaith celf sydd i’w weld ar y meinciau, gyda llais y plentyn yn amlwg yn y gwaith.  Bydd y tair mainc i’w gweld ar faes yr Eisteddfod, ac mae un o’r meinciau wedi ei haddasu ar gyfer unigolion sydd mewn cadair olwyn.   

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Gyda llai na phythefnos i fynd nes y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn yn Llanymddyfri, mae’r bwrlwm i’w deimlo o amgylch Sir Gâr.

Rwy’n disgwyl ymlaen yn arw i’r Sioe Chwilio’r Chwedl, a fydd yn agor yr ŵyl yn swyddogol ac rwy’n annog pawb i brynu eu tocynnau i’r Eisteddfod, os nad ydynt wedi yn barod, mewn da bryd.

Cofiwch hefyd fod darpariaeth mynediad am ddim i deuluoedd ar incwm isel ar gael, a fydd yn galluogi pob teulu a phlentyn yn Sir Gaerfyrddin i gael y cyfle i fynychu’r ŵyl unigryw ac arbennig hon.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle