Mae’n bleser gan Ashmole & Co, un o gwmnïau cyfrifeg ddwyieithog fwyaf de Cymru, noddi agwedd newydd yn Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf.
Fel Archwiliwr Cwmni Urdd Gobaith Cymru, mae Ashmole & Co yn deall pwysigrwydd y mudiad o ran helpu gyda sgiliau lleferydd ac iaith plant drwy’r gwahanol gystadlaethau ac felly’n awyddus i helpu i gefnogi’r mudiad yn ariannol.
Eleni, am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyd-weithio gyda’r cyfieithydd Makaton, Ceri Bostock, i gyfieithu a pherfformio cyfieithiadau Makaton yn ystod cystadlaethau côr neu grŵp ac mae Ashmole & Co wedi cytuno i noddi’r gwasanaeth ychwanegol pwysig hwn yn ystod yr wŷl.
Mae effeithiau Covid 19 ar sgiliau lleferydd ac iaith plant wedi bod yn enfawr ac felly teimlai Eisteddfod yr Urdd ei bod yn bwysig dangos cyfieithwyr Makaton fel rhan o gystadlaethau prif ffrwd yr Eisteddfod i annog defnydd o’r iaith ac i helpu cystadleuwyr ifanc gyda chyfathrebu. Mae Makaton hefyd yn hynod fuddiol i ddysgwyr Cymraeg; Bydd Ceri Bostock nid yn unig yn helpu plant ag anawsterau dysgu a lleferydd ond hefyd yn helpu dysgwyr Cymraeg i ddeall ystyr geiriau neu gerddi.
Dywedodd Ceri Llwyd, Partner Ashmole & Co yn swyddfa Llanymddyfri a Llandeilo, “Mae Eisteddfod yr Urdd yn golygu llawer i mi’n bersonol, wedi cystadlu ers yn chwech oed. Nawr fel mam, rwy’n annog fy mhlant i gymryd rhan a chystadlu.”
Parhaodd Ceri, “Yn ogystal â Chwmni Urdd Gobaith Cymru, fi yw’r Partner yn Ashmole & Co sy’n gyfrifol am y cyfrifon, ac archwilio lle bo’n berthnasol, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Menter Dinefwr, Menter Gorllewin Sir Gâr . Pan gefais wahoddiad i dendro am wasanaethau archwilio Cwmni Urdd Gobaith Cymru doedd dim amheuaeth fy mod eisiau gweithio gyda’r cleient yma o ystyried pwysigrwydd y mudiad yng Nghymru, er ei fod yng nghanol y pandemig! Rydym wedi datblygu perthynas waith ardderchog ac rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
Mae Ceri yn byw yn Cross Hands gyda’i dau fab ifanc ac wedi bod yn bartner gydag Ashmole & Co ers 2008 pan agorodd y cwmni ei swyddfa yn Llanymddyfri. Mae Ceri yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn arbenigo mewn gweithio gydag elusennau, ffermwyr, cyfreithwyr a busnesau teuluol. Mae Ceri yn mwynhau canu yn ei hamser hamdden gyda Chôr Llanddarog a’r Cylch.
Dywedodd Ceri, “Mae fy mhortffolio o gleientiaid yn y sector Cymraeg wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd ac mae gallu darparu gwasanaeth lle mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi yn Gymraeg yn ogystal ag ymgymryd â’r gwaith a sgwrsio cyffredinol yn Gymraeg yn faes arbenigol. Mae holl staff swyddfa Llanymddyfri yn gyffrous iawn bod yr ŵyl arbennig hon yn digwydd ar garreg ein drws. Mae’n gyfle gwych i’n tref fach wledig.”
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri o 29 Mai tan 3 Mehefin yn Llanymddyfri. Dyma fydd yr wythfed tro i Sir Gaerfyrddin gynnal Eisteddfod yr Urdd er mai dyma fydd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â Llanymddyfri. Am fanylion llawn ewch i’r wefan: https://www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/20231/
-diwedd-
Nodyn i Olygyddion: Mae llun wedi ei atodi o wahanol arwyddion yr Urdd o gwmpas Llanymddyfri yn y cyfnod cyn y digwyddiad yr wythnos nesaf. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Sarah Jones, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus. Ffôn: 07392 854562 neu e-bost: asjpublicrelations@gmail.com
Am Ashmole & Co:
Mae Cyfrifwyr Siartredig ac Ardystiedig Ashmole & Co wedi’u sefydlu ers 1897 ac maent yn un o fusnesau cyfrifyddu ac archwilio mwyaf yng Nghymru, yn gweithredu o dair ar ddeg o swyddfeydd ledled de a gorllewin Cymru gan gynnwys Abertawe, Caerfyrddin a Hwlffordd.
Rydym yn cyfuno gwasanaethau archwilio, cyfrifyddu a threthiant o ansawdd uchel ynghyd â chyngor busnes, gwasanaethau ariannol a chynllunio corfforaethol. Felly mae Ashmole & Co yn sicrhau bod gan bob cleient y cymorth proffesiynol ymroddedig sydd ei angen i wneud y gorau o’u potensial.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle