Prosiect plannu coed coffa yn anelu i roi mwy o gyfleoedd i addysg awyr agored a rhoi hwb i fioamrywiaeth

0
234
aption: Schools are being encouraged to sign up for the Coetir Enfys Ros (Ros’ Rainbow Wood) planting scheme, which was launched at Poppit Sands recently by of Ros’ family and friends together with representatives from the Pembrokeshire Coast National Park Authority.

Lansiwyd cynllun newydd ar gyfer plannu coed yn ddiweddar o’r enw Coetir Enfys Ros yn Nhraeth Poppit, sy’n ceisio creu coetir ar draws ysgolion yn Sir Benfro.

Cafodd y cynllun ei sefydlu er cof am Ros Jervis, sef Cyn-gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda’r nod o annog disgyblion i fwynhau’r awyr agored, gwella eu hiechyd a’u llesiant, yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth.

aption: Schools are being encouraged to sign up for the Coetir Enfys Ros (Ros’ Rainbow Wood) planting scheme, which was launched at Poppit Sands recently by of Ros’ family and friends together with representatives from the Pembrokeshire Coast National Park Authority.

Bydd Coetir Enfys Ros yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar ran amrywiaeth o bartneriaid lleol.

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: “Byddwn ni’n gwahodd ysgolion i gysylltu â ni ar ddiwedd tymor yr haf os ydynt yn dymuno cymryd rhan, er mwyn i ni allu paratoi i blannu ar ddechrau’r tymor plannu, sef o fis Hydref ymlaen.

“Bydd ysgolion yn cael coed – yn ogystal â chymorth a chyngor ar y lleoliadau mwyaf addas i’w plannu – er mwyn sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lle iawn. Byddwn hefyd yn paratoi adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, a bydd yr adnoddau hyn yn ymwneud â Choetir Enfys Ros.

Daeth teulu a ffrindiau Ros at ei gilydd yn ystod y lansiad yn Nhraeth Poppit ddiwedd mis Ebrill 2023 – ynghyd â chynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, ewch i https://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy/hafan-2/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle