Seremoni raddio gan gwmni hyfforddi i ddathlu llwyddiant prentisiaid

0
231
Prentisiaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian oedd yn graddio, gyda'r rheolwr gyfarwyddwr Faith O'Brien (blaen, yr ail o'r chwith), yn y seremoni wobrwyo.

Mae un o’r prif gwmnïau dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi dathlu llwyddiant prentisiaid o bob rhan o’r wlad mewn Seremoni Raddio i Brentisiaid.

Cyflwynwyd eu sgroliau graddio i chwe deg o brentisiaid yn eu capiau a’u gynau yn y seremoni a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod.

Ymhlith y graddedigion roedd Patrick Rixson, 24, prif gogydd yn Bank Farm Leisure, Horton, Gŵyr, a enillodd gymwysterau peiriannydd cyn penderfynu canolbwyntio ar ei gariad at goginio, a daniwyd gan ei fam.

Dechreuodd Patrick olchi llestri yng nghegin ei dafarn leol, The Ship Inn ym Mhort Eynon, yn 15 oed a symudodd ymlaen i fod yn commis chef.  Yna, bu’n gweithio yn Bank Farm Leisure a’r Britannia Inn, Llanmadog, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol gyda Hyfforddiant Cambrian.

Mae Patrick yn awyddus i barhau i ddysgu ac yn ddiweddar cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch. Ei obaith yw meithrin profiad yn gweithio mewn ceginau eraill cyn agor ei fistro ei hunan a mynd ati i ddysgu cogyddion yn y pen draw.

Patrick Rixson a gwblhaodd Brentisiaeth Uwch gyda rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Faith O’Brien a’r swyddog hyfforddi Will Richards.

“Mae prentisiaethau’n wych gan eu bod yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu wrth weithio llawn amser,” meddai Patrick.  “Maen nhw’n agor eich llygaid i’r hyn y gall y diwydiant ei gynnig pan fydd y sgiliau a’r wybodaeth gywir gennych.

“Fy nghyngor i i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu unrhyw un sy’n ystyried pa yrfa i’w dilyn yw peidio â bod yn ddafad a dilyn y praidd i’r coleg neu’r brifysgol.  Gallwch symud ymlaen ar eich pen eich hunan trwy brentisiaeth a chyflawni mwy nag y byddech chi’n ei wneud trwy fynd i’r coleg neu’r brifysgol, lle byddai gennych ddyled enfawr ar y diwedd.”

Cafodd Patrick ei ganmol gan y swyddog hyfforddi Will Richards am ei frwdfrydedd a’i barodrwydd i ddysgu pethau newydd.  “Fe allwn ni ddysgu’r sgiliau a’r theori, ond allwn ni ddim dysgu’r ewyllys i lwyddo ac mae gan Patrick ddigonedd o hynny,” meddai.  

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfle iddo feithrin cymeriad gan ei fod yn cyfuno’r Brentisiaeth Uwch â rhedeg cegin brysur.”

Cambrian Training Graduation 2023. Pictured is Patrick Rixson. Picture by Phil Blagg Photography. PB73-2023

Wrth longyfarch yr holl raddedigion, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien, wrthynt: “Rydych wedi gweithio’n galed, wedi dangos ymroddiad ac wedi codi i’r brig, gyda sgiliau a gwybodaeth a fydd yn para oes.  

“Mae’ch hyfforddiant wedi rhoi cyfle i chi dyfu, yn bersonol ac yn broffesiynol, a dod yn rhan o weithlu medrus a fydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.

“Mae gennych chi’r potensial i wneud lles yn y byd a dw i’n sicr yr ewch chi ymlaen i gyflawni pethau gwych.  

“Cofiwch nad yw dysgu byth yn dod i ben.  Mae’ch prentisiaeth wedi rhoi sylfaen gadarn i chi, ac yn awr mater i chi yw siapio’ch dyfodol.”

Aeth ymlaen i ganmol swyddogion hyfforddi a staff Hyfforddiant Cambrian a phartneriaid y cwmni am chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod prentisiaid yn cael yr hyfforddiant galwedigaethol gorau a’r profiad gorau o ran datblygiad personol.

Yn ogystal, roedd hi’n awyddus i gydnabod y gefnogaeth bwysig a roddir i brentisiaid gan gyflogwyr, cydweithwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae Sirius Skills Consulting, Lifetime Training, Progression Training, Call of the Wild, Clybiau Plant Cymru, AGW, y Work-based Training Agency, Portal Training, Inspiro ac NTG Training yn bartneriaid i Hyfforddiant Cambrian.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle