Datganiad ar Ddoc y Gogledd

0
160
Arms of Carmarthenshire County Council

Mae arwyddion wedi eu codi yn Noc y Gogledd i rybuddio pobl rhag algâu gwyrddlas.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio’r cyhoedd i osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr tra bydd yr arwyddion yn rhybuddio rhag y posibilrwydd o groeshalogi drwy achosion naturiol.

Gall yr algâu achosi i bobl ac anifeiliaid fod yn sâl, felly cynghorir y cyhoedd i beidio â nofio yn y dŵr; peidio â llyncu’r dŵr; peidio â chyffwrdd â’r algâu; peidio â gadael i anifeiliaid anwes ddod i gysylltiad â’r dŵr, ac i ddarllen yr arwyddion sydd yn y Doc a’r parc dŵr ac ufuddhau iddynt.

Roedd profion a gynhaliwyd yn Noc y Gogledd, Llanelli, gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau presenoldeb algâu. Mae hyn er gwaethaf gwelliannau i gylchrediad y dŵr. Bydd y sefyllfa’n cael ei monitro yn Noc y Gogledd a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddeall sut y gellir datrys mater yr algâu gwyrddlas sy’n digwydd yn naturiol.

Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae cynnydd mawr mewn algâu ac algâu gwyrddlas yn ddigwyddiad naturiol sy’n digwydd o bryd i’w gilydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd twym. Rydym yn cydnabod y siom y bydd defnyddwyr Doc y Gogledd yn ei gael ynglŷn â’r newyddion hyn, fodd bynnag, mae iechyd cyhoeddus ein trigolion ac ymwelwyr yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae hyn yn esbonio pam y gosodwyd hysbysiadau o amgylch Doc y Gogledd yn cynghori pobl i beidio â mynd i mewn i’r dŵr. Rydym yn annog pobl i dalu sylw i’r rhybudd sydd wedi cael ei roi. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ar y cyd â’n partneriaid ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gall yr algâu gynhyrchu tocsinau sy’n gallu achosi brech ar y croen, cyfog, chwydu, poenau stumog, twymyn a phen tost os yw’n cael ei lyncu.

Os oes gennych unrhyw bryderon iechyd, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 111.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle