Ymgyrch codi arian elusennol yn achub cynefinoedd Sir Benfro

0
289
Capsiwn: Ymgyrch Yr Adar a'r Gwenyn yn ceisio annog pobl i feddwl am y rhywogaethau sy'n elwa o'r gwaith o adfer a gwella cynefinoedd.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn lansio ymgyrch newydd er mwyn gwella cynefinoedd ar draws y Parc Cenedlaethol ar gyfer yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt sy’n galw’r rhan yma o Gymru yn gartref.

Yn dilyn llwyddiant ymgyrchoedd codi arian yn y gorffennol, fel Gwyllt am Goetiroedd a Creu Mwy o Ddolydd, mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd ei hymgyrch newydd “Yr Adar a’r Gwenyn” yn annog mwy o bobl i feddwl am y rhywogaethau sy’n elwa o’r gwaith o adfer a gwella cynefinoedd.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Bioamrywiaeth nodedig y rhanbarth sy’n gyfrifol am ddarparu rhai o olygfeydd a synau eiconig ein Parc Cenedlaethol. O’i harfordir garw i dirweddau hynafol y Preseli a noddfa gudd Aber Daugleddau, mae Sir Benfro yn cael ei chydnabod fel un o’r rhannau ecolegol gyfoethocaf a mwyaf amrywiol o Gymru, ac yn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei chynefinoedd arbennig a’r rhywogaethau prin sy’n byw yno.

“Fodd bynnag, mae ein hamgylchedd yn fregus, yn dirywio ac angen ein help ni yn fwy nag erioed.”

Er bod cynefinoedd arfordirol blodeuog Sir Benfro yn rhoi noddfa i’r boblogaeth olaf o’r Gardwenynen Feinlais yn y DU, mae dyfodol llawer o rywogaethau eraill yn y fantol. Un o’r rhywogaethau hyn yw’r bras melyn. Er bod poblogaeth y bras melyn wedi gostwng 30% ers 1994, o ganlyniad i effaith colli cynefinoedd a newidiadau mewn arferion ffermio, mae eu dirywiad yn Sir Benfro dros y 40 mlynedd ddiwethaf yn nes at 90%.

Eglurodd Katie Macro: “Does dim angen cyfraniadau sylweddol i wneud gwahaniaeth i’n bywyd gwyllt brodorol. Er hynny, byddai £50 yn talu am gadwyn o ferlod Mynydd Cymreig i bori tir dolydd am fis, gan wella cynefinoedd i gacwn, gwenyn unig a brain coesgoch, a byddai £10 yn darparu digon o hadau dolydd i hau dros 100 metr sgwâr ar gyfer pryfed peillio ac adar fel yr ehedydd.

“Os ydych chi’n galw Sir Benfro yn gartref, neu’n gartref oddi cartref, mae angen eich help chi i ddiogelu ein Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

I gyfrannu at yr ymgyrch Yr Adar a’r Gwenyn, ewch i https://pembrokeshirecoast.enthuse.com/TheBirdsandtheBees.

Mae rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i warchod y tirweddau trawiadol a’u bywyd gwyllt, ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle