Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid bellach ar gael i ddechrau ailddefnyddio adeiladau gwag yng nghanol tair prif dref y sir at ddiben masnachol.
Nod y cyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw datblygu adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli at ddiben masnachol trwy eu hadnewyddu a chreu pwrpas arall iddynt.
Bydd y cyllid hefyd yn ategu seilwaith gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus. Bwriad y rhaglen Trawsnewid Trefi yw creu canol trefi bywiog, gyda mannau gwaith hyblyg a mwy o fynediad at wasanaethau i drigolion ac i bobl sy’n ymweld â chanol ein prif drefi.
Bydd y grant yn agor i geisiadau rhwng 7 Mehefin a 30 Awst 2023. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Ionawr, 2025.
Caiff y ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Mewn amgylchiadau lle mae cost y prosiect yn llai na £250,000, efallai fydd cyfradd ymyrraeth o hyd at 70% yn erbyn cyfanswm costau’r prosiect ar gael. Rhaid i geisiadau dros £250,000 fod o natur strategol a byddant yn cael eu hystyried drwy banel cyfalaf Llywodraeth Cymru a gallai cyfradd ymyrraeth grant o hyd at 45% fod ar gael.
Bydd swm y cyllid yn cael ei bennu ar y lefel isaf sydd ei hangen er mwyn i’r prosiect fynd rhagddo.
Swm cyfyngedig o arian sydd ar gael, a’r cyntaf i’r felin fydd hi. Dim ond yn y tair prif dref fydd cyllid ar gael; Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae canol ein trefi yn chwarae rhan annatod o fewn economi Sir Gaerfyrddin ac mae’n bwysig iawn ein bod ni, fel y Cyngor Sir, yn parhau i gefnogi busnesau sy’n masnachu yno.
“Felly rwy’n croesawu cyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ac yn annog perchnogion a lesddeiliaid adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin i gysylltu â’r Cyngor, cyn gynted â phosib, er mwyn trafod cyfleoedd posib i gael yr adeiladau hyn yn masnachu eto ar y stryd fawr.”
I gael rhagor o fanylion, neu os hoffech drafod unrhyw brosiectau posibl, e-bostiwch transformingtowns@sirgar.gov.uk
Cliciwch yma i fynd i’r dudalen Trawsnewid Trefi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle