Amgueddfa Cyflymder yn agor ym Mhentywyn 

0
232
Amgueddfa Cyflymder

Mae amgueddfa newydd gyffrous wedi agor ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, sydd wedi croesawu ei hymwelwyr cyntaf yn ystod gwyliau’r Sulgwyn. Yr Amgueddfa Cyflymder yw’r aelod mwyaf newydd o deulu CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dewch i brofi stori’r traeth, cyflymder a chwaraeon.

Yn ystod eich ymweliad â’r Amgueddfa Cyflymder, ewch ati i ddysgu am y traeth a theithio drwy arddangosfeydd rhyngweithiol, o J.G. Parry-Thomas a recordiau cyflymder y byd yn y 1920au i ‘Flying Mile’ Idris Elba yn 2015. Dewch i brofi cyffro rasio gyda ‘Babs’, y car enwog, clywed ei hinjan yn rhuo, a theimlo’r gwynt yn eich wyneb.

Hefyd bydd cyfle i ymwelwyr weld arddangosfa arbennig, a ddyluniwyd ar y cyd â myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n archwilio syniadau trafnidiaeth y dyfodol. Mae siop anrhegion wych hefyd ar y safle, sef y lle perffaith i brynu swfenîrs moduro a danteithion deniadol i’r teulu cyfan. Mae hyd yn oed lle pwrpasol, hygyrch sy’n llawn cyfleusterau ar gyfer pob achlysur a golygfeydd ysblennydd ar hyd traeth saith milltir Pentywyn.

Yr amgueddfa hwyliog a chynaliadwy hon yw’r cyfleuster diweddaraf i’w gwblhau fel rhan o Brosiect Denu Twristiaid Pentywyn. Datblygwyd y prosiect yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori’n helaeth â’r gymuned ac fe’i hadeiladwyd gan Andrew Scott. Ei nod yw hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Pentywyn er mwyn hybu adfywiad economaidd y lleoliad yn y dyfodol fel cyrchfan ddigwyddiadau ‘diwrnod ac aros’.

Mae Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn hefyd yn cynnwys llety, sef “Caban,” maes chwarae antur a llawer mwy. Mae pob un bellach ar agor i ymwelwyr eu mwynhau. Mae Caban, sy’n hygyrch ac sydd wedi’i adeiladu mewn modd cynaliadwy, yn darparu 14 ystafell a 43 gwely. Mae hefyd yn cynnwys bwyty sy’n darparu ar gyfer y farchnad gwyliau cerdded a chwaraeon antur awyr agored yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am brofiad arfordirol.

Mae cyfleuster ar gyfer 10 o gartrefi modur, a fydd yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Cymuned Pentywyn, hefyd wedi’i gynnwys yn y prif gynllun ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:Mae’r Amgueddfa Cyflymder wedi agor yn swyddogol ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu ymwelwyr i Bentywyn a’r Amgueddfa Cyflymder dros fisoedd yr haf a thu hwnt.

“Mae Traeth Pentywyn yn enwog o ran hanes recordiau cyflymder ar dir, yn ogystal â bod yn rhan syfrdanol o hardd o Gymru. Mae’n addas, felly, fod gennym amgueddfa fodern, hwyliog a rhyngweithiol ym Mhentywyn i blant ac oedolion fel ei gilydd ddysgu mwy am yr hanes sy’n gysylltiedig â’r traeth.”

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflawni’r Prosiect Denu Twristiaid, yma ym Mhentywyn. Mae’n gyfleuster rhagorol a fydd yn hyrwyddo enw da Pentywyn fel cyrchfan ‘diwrnod ac aros’ drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr, yn darparu ar gyfer 41 o swyddi ac allai gynhyrchu £3 miliwn y flwyddyn i’r economi ranbarthol.”

Oriau agor

Rhwng 27 Mai a 3 Mehefin, ar agor bob dydd, 10am – 5pm.

Rhwng 4 Mehefin a 21 Gorffennaf, ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am – 5pm.

Rhwng 22 Gorffennaf a 3 Medi, ar agor bob dydd, 10am – 6pm

Ewch i wefan newydd CofGâr  i gael rhagor o wybodaeth a manylion am oriau agor neu dilynwch CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle