Tad a merch i gerdded 175 milltir ar gyfer gwasanaethau canser Sir Benfro 

0
231
Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Angharad Smiriglia a'i thad, Geoffrey Eynon.

Bydd y pâr yn cerdded am 70 diwrnod cyn pen-blwydd Geoffrey yn 70 oed i goffau’r garreg filltir bwysig.

10 mlynedd yn ôl, cafodd Geoffrey ddiagnosis o chordoma, math prin iawn o ganser yr esgyrn sy’n effeithio ar un o bob 800,000 o bobl bob blwyddyn.

Dywedodd Geoffrey: “Ar ôl ymgynghoriadau, sganiau a biopsïau amrywiol yn yr Ysbyty, penderfynwyd tynnu’r tiwmor. Diolch byth fe wnes i wella’n llwyr ar ôl y llawdriniaeth ac rydw i wedi aros yn rhydd o’r afiechyd ers 10 mlynedd.”

Dywedodd Angharad: “Mae gwasanaethau canser Llwynhelyg yn agos iawn at ein calonnau am y gofal a’r gefnogaeth y maent wedi’u rhoi i’n hanwyliaid ar wahanol adegau dros y blynyddoedd.

“Dyma ein ffordd ni o roi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaethau lleol, hanfodol hyn wrth ddathlu dwy garreg filltir fawr i Dad, ei ben-blwydd yn 70 oed a bod yn rhydd o ganser yr esgyrn am 10 mlynedd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol GIG Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud diolch yn fawr a phob lwc i Geoffrey ac Angharad. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gyfrannu at godwr arian Angharad a Geoffrey yn: https://www.justgiving.com/crowdfunding/geoffsstepsto70?utm_term=7bRZw7wm2


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle