Cymorthfeydd Caffael a Busnes Sir Gaerfyrddin

0
292
Arms of Carmarthenshire County Council

Ydych chi am gyflenwi eich nwyddau, gwaith a gwasanaethau i Gyngor Sir Caerfyrddin?

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â busnesau lleol bach a chanolig, Sefydliadau Trydydd Sector a Grwpiau Lleiafrifol i ddarparu’r fenter hon i ymgysylltu â chyflenwyr.

Mae’r Cyngor yn awyddus i weld busnesau lleol bach a chanolig yn cystadlu am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i’r Awdurdod.

Bydd Cymorthfeydd Caffael a Busnes yn cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin tan fis Mawrth 2024 lle bydd Swyddogion Caffael a Datblygu Economaidd y Cyngor ar gael i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch cyfleoedd masnachu presennol a’r dyfodol, cymorth busnes a chyllid grant.

Bydd y Cymorthfeydd Caffael a Busnes cyntaf yn cael eu cynnal mewn dau leoliad:

  • Y Goleudy, Dafen, Llanelli – 20 Mehefin
  • Yr Egin/Stiwdio S4C, Caerfyrddin – 18 Gorffennaf

I drefnu apwyntiad 30 munud, anfonwch e-bost at: kbaker@sirgar.gov.uk

Bydd mwy o Gymorthfeydd yn dilyn rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024, a fydd yn cynnwys lleoliadau yn 3 prif dref Sir Gaerfyrddin, ym Mhorth Tywyn ac yn 10 tref wledig y sir.

Bydd cymorthfeydd rhithwir hefyd ar gael yn ôl yr angen.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun LennyMae caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau gan gyflenwyr lleol yn hanfodol i gryfhau ein heconomi leol a’r cymunedau mae’n eu cefnogi.

“Mae’r Cymorthfeydd Caffael a Busnes fydd mewn gwahanol lefydd ar draws Sir Gâr dros y misoedd nesaf yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig, sefydliadau’r trydydd sector, a grwpiau lleiafrifol gael cyngor am sut i dendro am gyfleoedd gyda’r Cyngor.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle