Llwyddiant i gadwyn westai fwyaf y DU mewn gornest gan ddarparwr hyfforddiant.

0
227
Richard Brooks-Harley, rheolwr cyflenwi prentisiaethau Whitbread, yn derbyn gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn oddi wrth Faith O'Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yng nghwmni rheolwr ardal Cymru, Mark Hughes, rheolwr partneriaeth â Whitbread, Phil Prior, a rheolwr gweithrediadau'r gwledydd datganoledig, Justin Hoskins.

Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Mae cadwyn westai fwyaf y Deyrnas Unedig sydd â dros 800 o westai, 400 o fwytai a 36,000 o weithwyr wedi ennill gwobr gan un o brif ddarparwyr prentisiaethau Cymru.

Whitbread plc a enillodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngwobrau prentisiaethau Cwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni hyfforddiant a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’u partneriaid ym meysydd prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth.

Mae Whitbread plc yn cynnwys Premier Inn a bwytai Beefeater, Brewers Fayre, Table Table, Bar + Block a Cookhouse & Pub yn eu stabl.

Mae prentisiaethau’n ffitio’n daclus yn rhaglen gynaliadwyedd y cwmni, ‘Force for Good’, sy’n pwysleisio cyfle, cymuned a chyfrifoldeb.

Dywedodd Richard Brooks-Harley, rheolwr cyflenwi prentisiaethau Whitbread, fod y cwmni’n falch iawn o ennill y wobr. “Rwy’n falch iawn o’r hyn rydyn ni’n ei wneud i gefnogi ein prentisiaid yn y gwledydd datganoledig.

“Mae prentisiaethau’n rhoi cyfleoedd i’n holl weithwyr ac mae derbyn y wobr hon ar eu rhan yn golygu llawer i mi.”

Richard Brooks-Harley, rheolwr cyflenwi prentisiaethau Whitbread, yn derbyn gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn oddi wrth Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 230 o brentisiaid wedi cwblhau eu prentisiaeth ac mae 2,100 arall ar y rhaglen erbyn hyn. Darperir prentisiaethau mewn sawl maes sy’n gysylltiedig â’r diwydiant lletygarwch, o Lefelau 2 i 5, ac maent yn helpu i gadw staff, gan wella profiad gwesteion, hybu gwerthiant a lleihau costau.

Caiff y prentisiaethau eu darparu gan Lifetime Training mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Yn 2022, cafodd 70% o brentisiaid y cwmni ddyrchafiad o fewn blwyddyn i gwblhau eu prentisiaeth.

Bu sylfaenydd Whitbread plc, Samuel Whitbread, yn brentis, ac mae hynny’n tanlinellu ymrwymiad y cwmni i ddysgu a datblygu.

Dywedodd Charlene Clark, cydlynydd cefnogi prentisiaethau Whitbread plc:  “Mae ein darpariaeth o ran prentisiaethau’n cyd-fynd â’n rhaglen Force for Good gan roi cyfle i holl aelodau’n timau ddysgu a datblygu. Does dim i atal neb rhag cymryd rhan, ac felly gall pawb o’n tîm gyrraedd eu potensial.

“Mae gennym ni raglen brentisiaethau ar gyfer pob rôl weithredol yn y sefydliad ac rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu trefniadau hyfforddi a datblygu gyda’r gorau yn y diwydiant mewn amgylchedd cynhwysol i’n holl dimau.”

I ddangos pa mor bwysig yw cadw gweithwyr, mae gostyngiad o un y cant yn nhrosiant staff yn ychwanegu £5 miliwn at elw net y cwmni. Mae cyfraddau cadw staff 10% yn uwch ar gyfer prentisiaid.

Llongyfarchwyd Whitbread, yr enillwyr eraill a phawb oedd yn y rownd derfynol gan Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian. “Cyflogwyr yw’r grym sy’n gyrru llwyddiant prentisiaethau ac maen nhw i’w canmol am eu hymroddiad i ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau mentora o safon uchel,” meddai.

“Trwy gymryd rhan, maen nhw’n agor y drysau i brofiadau yn y byd go iawn, gan alluogi prentisiaid i ddysgu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sy’n angenrheidiol yn eu dewis faes.

“Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad yn ein dyfodol ac maent yn gosod sylfaen ar gyfer economi gref a bywiog.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle