Datganiad Doc y Gogledd – 14 Mehefin 2023

0
247
Arms of Carmarthenshire County Council

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awyddus i ailagor Doc y Gogledd yn Llanelli. Y brif bryder yw diogelwch y cyhoedd ac mae’r Cyngor wedi gosod arwyddion rhybuddio o amgylch perimedr y Doc i rybuddio am beryglon salwch oherwydd algâu sy’n bresennol yn naturiol yn y dŵr. Mae’r Cyngor yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar brofi ac atebion posibl ar gyfer mater nad yw’n unigryw i Ddoc y Gogledd.

Mae Doc y Gogledd ac Aber Afon Llwchwr yn amgylcheddau deinamig, naturiol ar wahân. Mae lefelau maetholion, cysgod a lefelau’r haul, y tymheredd, lefelau llanw, a chylchrediad dŵr yn effeithio ar ansawdd dŵr a lefelau algâu.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio’n galed i reoli lefel y cylchrediad dŵr yn ddeinamig ac yn ofalus ac yn treialu cael gwared â llaw ar beth o’r algâu. Y tu hwnt i hyn, cynghorir y Cyngor bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall ei wneud, gan gofio dynodiadau amgylcheddol aber afon Llwchwr. Mae tymereddau cynyddol ledled y byd yn golygu bod amgylcheddau naturiol yn newid a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y mwyaf o hyfywedd parhaus Doc y Gogledd ar gyfer defnydd hamdden.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Nid oes yna ddatrysiad syml na chynaliadwy i’r broblem yma gan ei bod yn bwysig cofio bod Aber Afon Llwchwr yn gynefin i fywyd gwyllt lleol. Mae gan y ddau gorff dŵr, Doc y Gogledd a’r Aber, nodweddion cymhleth a deinamig; mae’n rhaid rheoli symudiad a chylchrediad dŵr rhwng y ddwy ardal yn ofalus.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Ein dymuniad yw i Ddoc y Gogledd gael ei ddefnyddio at ei ddiben arfaethedig fel corff dŵr hamdden fewndirol sy’n ddiogel a hygyrch i’r cyhoedd ac rydym yn cydweithio gyda asiantiethau eraill i ddatrys y mater. Does yna ddim gwirionedd i’r sïon am gynlluniau i werthu’r Doc. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r ardal ar gyfer dibenion hamdden.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle